Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dillad ac amddiffyn rhag y tywydd

Wrth yrru mopedau neu feiciau modur mae’n bwysig eich bod chi’n gwisgo dillad priodol i’ch amddiffyn rhag y tywydd ac i helpu defnyddwyr eraill y ffordd i'ch gweld.

Heb y dillad cywir, fe allwch chi fod yn oer a gwlyb iawn wrth yrru beic modur. Mae dillad beicio modur arbennig ar gael a'r rheiny:

  • yn eich amddiffyn rhag y tywydd
  • yn helpu i'ch amddiffyn rhag rhai anafiadau
  • yn helpu defnyddwyr eraill y ffordd i'ch gweld


Mae'r gyfraith yn mynnu eich bod yn gwisgo helmed ddiogelwch wrth yrru beic modur ar y ffordd. Fodd bynnag, dylech chi hefyd ystyried gwisgo'r dillad canlynol wrth yrru beic modur:

  • gogls neu sbectol warchod
  • menig a menig beicio
  • dillad i'ch amddiffyn
  • esgidiau cryf
  • cymhorthion gweld

Helmedau diogelwch

Mae'r gyfraith yn mynnu eich bod yn gwisgo helmed ddiogelwch wrth yrru beic modur ar y ffordd. Rhaid i bob helmed a werthir yn y DU fod naill ai:

  • yn cydymffurfio â Safon Brydeinig BS 6658:1985 a bod arni nod barcud BSI
  • yn cydymffurfio â Rheoliad UNECE 22.05
  • yn cydymffurfio ag unrhyw safon a dderbynnir gan aelod o Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n cynnig lefel o ddiogelwch a gwarchodaeth sy'n cyfateb i BS 6658:1985 a bod arni nod sy'n cyfateb i nod barcud BSI.


Difrod i helmedau

Os bydd eich helmed yn cael cnoc ddifrifol, dylech wastad brynu un newydd. Ni fydd difrod bob tro'n amlwg i'r llygad. Dyma pam na ddylech byth brynu helmed ail-law.

Gogls a sbectol warchod

Mae sbectol warchod neu gogls yn hollbwysig i warchod eich llygaid rhag gwynt, glaw, pryfed a baw ar y ffordd. Rhaid i gogls neu sbectol warchod gydymffurfio â Safon Brydeinig a bod arnynt nod barcud BSI, neu mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â Safon Brydeinig sy'n cynnig lefel o ddiogelwch a gwarchodaeth sy'n cyfateb i'r Safon Brydeinig a bod arnynt nod sy'n cyfateb i nod barcud BSI (ECE 22-05).

Os oes angen sbectol neu lensys arnoch i ddarllen plât rhif o'r pellter gofynnol, yna rhaid i chi wisgo'ch sbectol neu'ch lensys bob tro wrth reidio. Ddylech chi ddim gwisgo sbectol dywyll, sbectol warchod na gogls os ydych chi'n reidio yn y tywyllwch neu os nad oes modd gweld yn bell oherwydd yr amgylchiadau.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn cadw'ch sbectol warchod neu'ch gogls yn lân. Rhaid i chi allu gweld y ffordd o'ch blaen yn glir bob amser. I lanhau eich gogls neu'ch sbectol warchod, golchwch nhw mewn dŵr a sebon cynnes. Peidiwch â defnyddio toddydd neu betrol.



Dillad gwarchod

Ceir dau brif fath o ddillad ar gyfer reidio beic modur:

  • dillad o ddefnydd sydd wedi'i wneud gan ddyn
  • dillad lledr

Pan fyddwch yn dewis dillad gwarchod i'w gwisgo ar feic, cofiwch chwilio am warchodaeth ychwanegol i'ch ysgwyddau, eich penelinau a'ch pengliniau.



Menig a menig beicio

Mae menig neu fenig beicio'n hanfodol pan fyddwch chi'n reidio beic modur. Peidiwch byth â chael eich temtio i reidio heb fenig. Os disgynnwch chi, fe allech anafu'ch dwylo'n ddifrifol.

Esgidiau beicio

Mae’n bwysig gwisgo esgidiau addas pan fyddwch ar gefn beic modur. Os gwisgwch chi sandalau neu drenars, ychydig o warchodaeth fydd i'ch traed os disgynnwch chi.

Reidio mewn tywydd oer

Wrth reidio mewn tywydd oer iawn, gall eich dwylo a'ch traed fynd yn boenus o oer. Does dim ots pa mor dda yw eich menig neu'ch esgidiau, bydd yr oerfel yn treiddio drwodd yn y pen draw. Os ydych chi wir am feicio mewn tywydd oer dylech ystyried prynu menig isaf sy'n cael eu cynhesu â thrydan neu gripiau llaw sy'n cael eu cynhesu â thrydan. Fodd bynnag, mae'r pethau hyn yn gallu bod yn dreth ar eneradur trydan eich beic modur felly gwnewch yn siŵr y gall ymdopi â'r gofynion ychwanegol cyn i chi eu prynu a'u gosod.

Cymhorthion i wneud beicwyr modur yn fwy gweladwy

Mae llawer o'r damweiniau sy'n digwydd i feicwyr modur ar y ffordd yn digwydd oherwydd bod gyrrwr arall heb eu gweld. Bydd yn haws i bobl eraill eich gweld os cymerwch chi rai o'r camau isod. Cofiwch fod angen i bobl allu'ch gweld o'r ochr yn ogystal ag o'r tu blaen ac o'r cefn.

Bydd gwisgo dillad oren neu felyn llachar yng ngolau dydd yn eich gwneud yn fwy amlwg.

Dyma ambell ffordd arall o'ch gwneud yn fwy amlwg i bobl eraill yng ngolau dydd:

  • gwisgo helmed wen
  • gwisgo dillad llachar
  • reidio gyda’ch golau blaen wedi'i ddipio


Rhaid gwisgo defnyddiau sy'n adlewyrchu golau i'ch gwneud yn fwy amlwg yn y tywyllwch. Mae'r rhain yn adlewyrchu golau lampau cerbydau eraill gan eich gwneud yn fwy amlwg o dipyn o bellter.

Mwy o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am ddillad gwarchod, darllenwch gyhoeddiad swyddogol yr Asiantaeth Safonau Gyrru a elwir yn 'The Official DSA Guide to Riding - The Essential Skills', sydd ar gael gan siop lyfrau'r Asiantaeth drwy ddilyn y ddolen isod.

Additional links

Arian i'r brifysgol: cael eich DVD am ddim

Ydych chi'n meddwl am fynd i brifysgol, ond ddim yn gwybod sut gallwch chi dalu amdano? Gallwch gael y ffeithiau cywir gyda'n canllaw cychwynnol - ac archebu eich DVD ar arian myfyrwyr am ddim

Allweddumynediad llywodraeth y DU