Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hyfforddiant pellach i feicwyr modur

Gallwch ddod yn feiciwr modur gwell drwy ddilyn cwrs hyfforddi i wella eich sgiliau beicio. Siaradwch â hyfforddwr proffesiynol ynghylch dilyn cwrs dan y Cynllun Beicwyr Gwell. Yn ogystal â datblygu sgiliau newydd, gallwch gael gostyngiadau yswiriant gan rai broceriaid yswiriant beiciau modur.

Osgoi damwain

Mae'r gyrwyr gorau yn canolbwyntio'n galetach na'r gyrrwr cyffredin, ac maent yn cadw golwg barhaus ar bopeth o'u cwmpas am unrhyw arwydd o berygl posibl. Dydyn nhw ddim yn disgwyl i rywbeth ddatblygu.

Mae popeth wedi'i gynllunio, a byddant yn gyrru ar gyflymder diogel gyda'r beic yn y gêr cywir ac ar y safle mwyaf diogel ar y ffordd. Mae'r rhan fwyaf o'r gyrwyr hyn wedi dilyn cyrsiau gyrru'n bwyllog ac maent wastad yn datblygu'r sgiliau hyn

Beth y gallwch chi ei wneud?


Os ydych chi'n credu bod hyfforddi yn ddiflas, ceisiwch ei ystyried fel modd o ddatblygu eich sgiliau beicio.

Siaradwch â hyfforddwr proffesiynol ynghylch cyrsiau gyrru pellach. Mae'r hyfforddwyr hyn i gyd yn feicwyr modur brwd sy'n fwy na pharod i rannu eu gwybodaeth.

Cofrestr Hyfforddwyr Beic Modur Ar Ôl Prawf

Mae'r Gofrestr Hyfforddwyr Beic Modur Ar Ôl Prawf yn gofrestr wirfoddol o hyfforddwyr beic modur ar ôl prawf sy'n rhoi asesiadau a hyfforddiant datblygu i unrhyw feiciwr modur sydd wedi pasio'r prawf beic modur. Nod y cwrs yw gwella sgiliau beicio'r sawl:

  • sydd wedi pasio'r prawf
  • sy'n dychwelyd at feicio
  • sy'n uwchraddio i feic mwy
  • sy'n teimlo bod angen mireinio eu sgiliau

Mae'r gofrestr yn tyfu ac mae hyfforddwyr yn ymddangos ledled y wlad, gan ddarparu asesiadau cymeradwy a hyfforddiant i feicwyr sydd wedi'i deilwra at anghenion yr unigolyn.

Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru wedi achredu Fast-Trak i ddarparu hyfforddiant i hyfforddwyr a hoffai ymuno â'r gofrestr. Fel y corff hyfforddi penodedig cyntaf, bydd y Gofrestr yn awr yn gallu hyfforddi eu hyfforddwyr eu hunain at safon cofrestr yr Asiantaeth Safonau Gyrru, a disgwylir achredu eraill cyn bo hir.

Cynllun Beicwyr Gwell

Dan y Cynllun Beicwyr Gwell, bydd pob hyfforddai yn derbyn hyfforddiant a datblygiad a ddarperir o faes llafur y Gofrestr Hyfforddwyr Beic Modur Ar Ôl Prawf ac sydd wedi'i deilwra at anghenion y beiciwr unigol. Mae'n golygu y bydd y beiciwr yn derbyn cymaint neu gyn lleied o ddatblygiad ag y mae angen, yn hytrach na phecyn llawn oddi ar y silff.

Bydd pob hyfforddai sy'n cyrraedd y safon ar ôl asesiad a chwrs hyfforddi a roddir gan un o hyfforddwyr cymeradwy'r Gofrestr yn derbyn Tystysgrif Yswiriant Beiciwr Gwell. Bydd y dystysgrif hon yn rhoi hawl iddynt gael gostyngiadau yswiriant gyda nifer o'r prif froceriaid yswiriant beiciau modur. Yn ogystal â hyn, mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru hefyd wedi negodi am ostyngiadau polisi masnach drwy'r Gymdeithas Diwydiant Beiciau Modur.

Additional links

Arian i'r brifysgol: cael eich DVD am ddim

Ydych chi'n meddwl am fynd i brifysgol, ond ddim yn gwybod sut gallwch chi dalu amdano? Gallwch gael y ffeithiau cywir gyda'n canllaw cychwynnol - ac archebu eich DVD ar arian myfyrwyr am ddim

Allweddumynediad llywodraeth y DU