Mae dwy ran i'r prawf theori; y rhan dewis atebion a'r rhan adnabod peryglon. Rhaid i chi basio'r ddwy ran i basio'r prawf theori. Unwaith i chi basio'r prawf theori, fe gewch chi wneud cais i sefyll eich prawf gyrru ymarferol.
Mae dwy ran i'r prawf theori; y rhan dewis atebion a'r rhan adnabod peryglon. Mae'r rhan dewis atebion yn golygu cyffwrdd sgrîn cyfrifiadur, ac mae'r rhan adnabod peryglon yn cofnodi'ch ymatebion wrth i chi ddefnyddio botwm ar lygoden gyfrifiadur.
Rhaid i chi basio'r ddwy ran i basio'r prawf theori. Os byddwch chi'n pasio un rhan ac yn methu'r llall, byddwch yn methu'r prawf i gyd, a bydd angen i chi sefyll y ddwy ran eto.
Mae'r cwestiynau yn y prawf dewis atebion yn amrywio yn ôl categori'r cerbyd rydych chi'n ceisio cael trwydded ar ei gyfer, e.e. ar gyfer prawf beic modur, gofynnir cwestiynau penodol nad ydynt yn rhan o unrhyw brawf arall.
Ar gyfer y prawf adnabod peryglon, nid oes fersiynau gwahanol ar gyfer gwahanol gerbydau, a'r un yw'r prawf ar gyfer pob categori cerbyd, er bod y marc pasio yn wahanol ar gyfer categorïau prawf gwahanol.
Cyn i'r prawf ddechrau fe gewch chi gyfarwyddiadau yn nodi sut mae'r prawf yn gweithio.
Fe gewch chi hefyd gynnig sesiwn ymarfer ar y cwestiynau amlddewis er mwyn dod i arfer â sut mae'r prawf yn gweithio. Ar ddiwedd y sesiwn ymarfer, bydd y prawf go iawn yn dechrau.
Bydd cwestiwn â dewis o sawl ateb gwahanol yn ymddangos ar y sgrîn a rhaid i chi ddewis yr ateb cywir i'r cwestiwn drwy gyffwrdd y sgrîn. Gall fod mwy nag un ateb i rai cwestiynau.
Gofynnir 35 cwestiwn i chi mewn 40 munud a’r marc pasio yw 30 allan o 35.
Ar gyfer lorïau a bysiau, o 2 Ebrill 2007 gofynnir 60 cwestiwn i chi mewn 70 munud. Y marc pasio yw 51 allan o 60.
Fe allwch chi symud rhwng cwestiynau a rhoi 'baner' ar gwestiynau y byddwch yn dymuno mynd yn ôl atynt yn ddiweddarach yn y prawf. Ar ôl y rhan amlddewis, fe allwch chi ddewis cael toriad o hyd at dri munud cyn i'r prawf adnabod peryglon ddechrau.
Ar ôl y toriad, dangosir clip fideo byr i chi yn dangos sut mae'r rhan adnabod peryglon yn gweithio.
Mae'r rhan adnabod peryglon hefyd yn cael ei roi ar gyfrifiadur, ond rydych chi'n ymateb drwy glicio botwm ar y llygoden. Bydd cyfres o 14 clip fideo yn cael ei dangos i chi o sefyllfaoedd o ddydd i ddydd ar y ffordd. Ym mhob clip, bydd o leiaf un perygl yn datblygu, ond bydd dau berygl yn datblygu yn un o'r clipiau.
Er mwyn cael sgôr uchel, bydd angen i chi ymateb i'r perygl sy'n datblygu wrth iddo ddechrau ymddangos. Y mwyaf y gallwch chi ei sgorio ar gyfer pob perygl yw pump.
Ni fyddwch yn gallu newid eich atebion i'r prawf adnabod peryglon; fel ar y ffordd, dim ond un cyfle fydd gennych chi i ymateb i'r perygl sy'n datblygu.
Y marc pasio ar gyfer y rhan adnabod peryglon ar gyfer car a beic modur yw 44 allan o 75. Ar gyfer lorïau a bysiau, y marc pasio yw 50 allan o 57.
Ar ddiwedd rhan adnabod peryglon y prawf theori, fe'ch gwahoddir i ateb nifer o gwestiynau ar gyfer arolwg cwsmeriaid.
Nid oes rhaid i chi ateb y cwestiynau os nad ydych chi'n dymuno, a bydd y wybodaeth a roddir yn ddienw ac yn gyfrinachol. Nid yw cwestiynau'r arolwg yn gallu effeithio ar ganlyniad y prawf.
Unwaith i chi orffen y prawf, fe gewch chi adael yr ystafell arholi. Unwaith i chi adael yr ystafell, chewch chi ddim mynd yn ôl i mewn. Bydd staff y ganolfan arholi wedyn yn rhoi'ch canlyniad i chi.