Mae gyrwyr newydd yn llawer mwy tebygol o gael damwain, yn enwedig yn y misoedd cyntaf ar ôl pasio prawf gyrru. Mae wedi'i brofi bod gan yrwyr sydd wedi'u hyfforddi i adnabod peryglon sgiliau adnabod peryglon llawer gwell.
Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i leihau'r niferoedd sy'n cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Prydain o 40 y cant erbyn 2010. Cyflwynwyd yr elfen adnabod peryglon i'r prawf gyrru ym mis Tachwedd 2002, i gyfrannu at gyflawni'r targed hwn drwy annog hyfforddiant addas i archwilio'r ffordd, adnabod sefyllfaoedd a all fod yn beryglus o'r cliwiau cyntaf a mabwysiadu cynllun gyrru i leihau'r risg.
Wrth ddatblygu'r prawf hwn, gweithiodd yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn agos gyda gweithwyr y Labordy Ymchwil Cludiant (TRL) ac adran diogelwch y ffyrdd yr Adran Drafnidiaeth, a chredai'r ddau fod y prawf hwn yn addas ar gyfer profi sgiliau adnabod peryglon pob gyrrwr.
Mae'r prawf adnabod peryglon ar gyfrifiadur, a gofynnir i chi ymateb drwy glicio botwm ar y llygoden. Byddwch chi'n gweld cyfres o 14 clip fideo ac arnynt sefyllfaoedd dyddiol cyffredin ar y ffordd, ac ym mhob clip bydd o leiaf un perygl yn datblygu, a dau berygl yn datblygu mewn un o'r clipiau.
Er mwyn cael sgôr uchel, bydd angen i chi ymateb i'r perygl sy'n datblygu wrth iddo ddechrau ymddangos. Y mwyaf y gallwch chi ei sgorio ar gyfer pob perygl yw pump.
Mae adnabod cliwiau a rhagweld peryglon yn sgiliau sy'n angenrheidiol i bob gyrrwr car a beic modur, waeth pa fath o gerbyd a ddefnyddir. Am y rheswm hwn, defnyddir yr un fersiwn o'r prawf adnabod peryglon ar gyfer pob categori prawf.
Sut mae adnabod ac ymateb i berygl sy'n datblygu? Dychmygwch fod cerbyd wedi'i barcio ar ochr y ffordd. Wrth ei weld am y tro cyntaf, nid yw'n gwneud dim; cerbyd wedi'i barcio yn unig yw hwn. Pe byddech chi'n ymateb i'r cerbyd nawr, ni fyddech yn sgorio unrhyw farciau, ond ni fyddech yn colli unrhyw farciau chwaith.
Fodd bynnag, wrth ddynesu tuag at y cerbyd, fe sylwch chi fod arwyddion cyfeirio i'r dde ar y car yn dechrau fflachio. Byddai'r arwyddion cyfeirio yn eich arwain i gredu fod gyrrwr y cerbyd yn bwriadu symud, ac felly mae'r perygl bellach yn datblygu a byddai ymateb nawr yn sgorio marciau. Mae'r ffaith bod yr arwyddion cyfeirio yn fflachio yn arwydd bod statws y cerbyd sydd wedi'i barcio wedi newid o fod yn berygl posibl i fod yn berygl sy'n datblygu.
Wrth ddynesu tuag at y cerbyd, mae'n debyg y byddwch yn gweld y cerbyd yn dechrau symud oddi wrth ochr y ffordd; dylid ymateb eto nawr. Bydd gan wahanol glipiau yn y prawf arwyddion amrywiol yn dynodi bod statws y perygl yn newid a hwnnw bellach yn dechrau datblygu.
Y mwyaf y gallwch chi ei sgorio ar gyfer pob perygl sy'n datblygu yw pump. Os byddwch chi'n ymateb yn ystod y perygl sy'n datblygu ac yn sgorio pwyntiau gwahanol, y nifer uchaf o bwyntiau a roddir i chi bob tro, h.y. os byddwch chi'n ymateb ac yn sgorio pum pwynt, yna dri phwynt ac yna ddau bwynt, fe roddir pum pwynt i chi.
Ni fyddwch yn gallu newid eich atebion i'r prawf adnabod peryglon; fel ar y ffordd, dim ond un cyfle fydd gennych chi i ymateb i'r perygl sy'n datblygu, felly bydd angen i chi ganolbwyntio yn ystod pob clip.
Os nad yw'ch ymateb yn briodol yn ystod y clip fideo a chithau'n clicio'n barhaol neu fod patrwm i'ch ymatebion, fe gewch chi sgôr o ddim ar gyfer y clip hwnnw. Ar ddiwedd y clip bydd blwch yn ymddangos yn rhoi gwybod i chi eich bod wedi sgorio dim yn y clip penodol hwnnw.