Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i baratoi ar gyfer eich prawf theori

Er mwyn paratoi ar gyfer y prawf theori, mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn awgrymu bod pob ymgeisydd yn astudio Rheolau'r Ffordd Fawr, Adnabod eich Arwyddion Traffig a'r llyfr perthnasol o gyfres Sgiliau Gyrru'r DSA. Waeth faint o brofiad gyrru sydd ganddynt, dylai pob ymgeisydd wneud defnydd llawn o'r deunydd astudio sydd ar gael er mwyn paratoi am elfennau dewis o atebion ac adnabod peryglon y prawf theori.

Paratoi am y prawf theori

Mae dwy ran i'r prawf gyrru theori, y rhan gyntaf yn set o 35 cwestiwn gyda dewis o atebion, a'r ail yn brawf adnabod peryglon a chithau'n gorfod adnabod 15 o beryglon sy'n datblygu mewn 14 o glipiau fideo.

Er mwyn paratoi ar gyfer dwy ran y prawf theori, argymhellwn fod pob ymgeisydd, waeth faint o brofiad gyrru sydd ganddynt, yn defnyddio'r deunydd a'r adnoddau sydd ar gael. Mae'r deunydd a'r adnoddau ar gael yn y rhan fwyaf o siopau llyfrau'r stryd fawr ac o siop lyfrau swyddogol ar-lein y DSA - bydd y ddolen isod yn eich arwain i wefan a siop lyfrau ar-lein y DSA.

Gyda'r llythyr sy'n cadarnhau i chi drefnu'ch prawf cyntaf, bydd yr Asiantaeth yn anfon DVD atoch dan y teitl "Ydych chi'n barod?" a dylech chi wylio hwn gan ei fod yn esbonio'r broses o sefyll y prawf theori.

Ymarfer y cwestiynau amlddewis ar-lein

Mae'r DSA hefyd yn darparu gwasanaeth ar-lein sy'n eich galluogi i brofi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o Reolau'r Ffordd Fawr, Adnabod eich Arwyddion Traffig a'r gyfres o lyfrau Sgiliau Hanfodol. Dim ond y cwestiynau amlddewis sydd yn y ffug brawf theori, ac nid oes modd ymarfer y prawf adnabod peryglon ar-lein. Nid yw sgorio mwy na 30 allan o 35 yn y prawf hwn yn golygu y byddwch yn pasio'r gwir brawf theori o dan yr amodau arholi priodol.

Os ydych chi eisiau ymarfer y prawf amlddewis ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod.

Amlddewis

Er mwyn paratoi ar gyfer rhan amlddewis y prawf theori, mae tri llyfr yn darparu'r deunydd gwahanol, sef Rheolau'r Ffordd Fawr, Adnabod eich Arwyddion Traffig a'r llyfr perthnasol i'r cerbyd yn y gyfres Sgiliau Gyrru.

Mae'r set lawn o gwestiynau theori a'r atebion ar gael mewn llyfr ac ar CD-ROM hefyd.

Adnabod peryglon

Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) wedi datblygu adnodd hyfforddi aml-gyfrwng ar gyfer y prawf adnabod peryglon. Mae'r adnodd ar gael mewn fformat DVD a fideo VHS, o'r enw 'The official guide to hazard perception'; enw blaenorol hwn oedd 'Roadsense'.

Mae'r adnodd hyfforddi hwn yn cynnig ffordd drefnus o adnabod peryglon, chwilio am gliwiau, y drefn 'drych-signal-symud', sganio a chynllunio, blaenoriaethu, lleihau risg ac ymateb i beryglon. Mae'r DVD hefyd yn cynnwys nifer o glipiau fideo rhyngweithiol, sy'n rhoi enghraifft o adnabod peryglon.

Mae'r deunydd hyfforddi adnabod peryglon wedi'i ddatblygu nid fel cynnyrch 'dysgwch eich hun', ond fel cynnyrch lle mae cyfarwyddyd gan hyfforddwr proffesiynol yn hanfodol.

Bydd cyfuno hyfforddiant adnabod peryglon ar gyfer y prawf theori gyda'r sesiynau hyfforddi ymarferol yn sicrhau, wrth i chi ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol, y gellir eu cryfhau a'u rhoi ar waith pan fyddwch chi ar y ffordd er mwyn i chi fod yn fwy diogel.

Mae'r cynnyrch i gyd ar gael i'w brynu yn y rhan fwyaf o siopau llyfrau'r stryd fawr, ac hefyd fe ellir archebu dros y ffôn ac ar-lein drwy'r Llyfrfa.

Allweddumynediad llywodraeth y DU