Mae gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (ASG) nifer o gyfleusterau ar gyfer pobl gydag anghenion arbennig, ac mae'r rhain yn cynnwys traciau sain mewn ieithoedd tramor, amser ychwanegol, dehongli Iaith Arwyddion Prydain a phrofion gyda chymorth cyfieithydd.
Mae'r cyfleusterau canlynol ar gael ar gyfer ymgeiswyr sydd ag anghenion arbennig. Rhaid gofyn am y cyfleusterau i gyd wrth drefnu'r prawf.
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych chi'n gallu darllen neu ddeall Saesneg ysgrifenedig yn dda, fe allwch chi wneud cais am drac sain mewn un o 21 iaith. Bydd y trac sain yn eich galluogi i glywed cyfarwyddiadau a chwestiynau'r prawf theori drwy ffonau clust. Bydd y cwestiynau'n cael eu gofyn yn awtomatig i chi, ac fe allwch chi glywed y dewisiadau drwy gyffwrdd â'r testun ar y sgrîn. Fe allwch chi glywed y cwestiynau mor aml ag y dymunwch, dim ond drwy gyffwrdd testun y cwestiwn ar y sgrîn eto.
Mae traciau sain mewn ieithoedd tramor ar gael yn yr ieithoedd canlynol:
Albaneg, Arabeg, Bengaleg, Cantoneg, Cashmireg, Cwrdeg, Cymraeg, Dari, Farsi, Gwjarateg, Hindi, Mirpwri, Portiwgaleg, Pwnjabeg, Pwshto, Pwyleg, Saesneg, Sbaeneg, Tamileg, Tyrceg, Wrdw
Os nad oes trac sain ar gael yn eich dewis iaith, fe allwch chi wneud cais am gael prawf theori gyda chymorth cyfieithydd. Gall yr asiant yn y ganolfan alw roi gwybod i chi enwau a manylion cyswllt cyfieithwyr cymeradwy yr DSA. Eich cyfrifoldeb chi yw trefnu dyddiad prawf gyda'r cyfieithydd a thalu unrhyw ffioedd cysylltiedig.
Os oes gennych chi ddyslecsia neu anawsterau darllen eraill, fe allwch chi ofyn am drac sain Saesneg neu Gymraeg. Fe allwch chi hefyd wneud cais i gael hyd at ddwywaith yr amser ar gyfer rhan amlddewis y prawf theori. Os oes angen mwy na'r 40 munud arferol arnoch ar gyfer y rhan amlddewis, bydd angen i chi anfon tystiolaeth o'ch anhawster darllen i adran gwasanaethau cwsmeriaid prawf theori.
Os ydych chi'n fyddar neu yn drwm eich clyw, fe allwch chi ofyn am gael sefyll y prawf theori mewn iaith arwyddion Prydain (BSL). Bydd y dehongliad iaith arwyddion yn cyd-redeg â chwestiynau ac atebion safonol y prawf. Os nad ydych chi'n defnyddio iaith arwyddion Prydain, gellir cael dehonglydd yn y ganolfan brawf, ond mae angen trefnu hyn gydag adran gwasanaethau cwsmeriaid y prawf theori. Ni chodir unrhyw dâl ychwanegol am y cais hwn.
Os oes gennych chi anghenion arbennig nad oes sôn amdanynt uchod, cysylltwch ag adran gwasanaethau cwsmeriaid y prawf theori i drafod eich anghenion a'r cyfleusterau sydd ar gael.