Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cais ar-lein am drwydded yrru dros dro gyntaf

Bydd modd i chi wneud cais am eich trwydded yrru Brydeinig dros dro gyntaf ar-lein:

  • os ydych chi'n byw yng Ngwledydd Prydain
  • os ydych chi'n ddigon hen
  • os ydy eich golwg yn ddigon da i fodloni'r gofyniad sylfaenol
  • os nad ydych wedi’ch rhwystro rhag gyrru ar hyn o bryd am unrhyw reswm
  • os gallwch dalu £50.00 gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd Mastercard, Visa, Maestro, Electron, Delta neu Solo
  • os oes gennych basport dilys y DU neu brawf arall o bwy ydych chi
  • os gallwch ddweud lle rydych chi wedi byw dros y tair blynedd diwethaf

Ei wneud ar y we – ei wneud yn gyflymach

Sicrhewch fod y canlynol gennych wrth law:

  • cerdyn credyd neu ddebyd dilys
  • eich pasport y DU os oes gennych un
  • manylion cyfeiriadau blaenorol

Bydd DVLA yn ceisio anfon eich trwydded yrru atoch o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno eich cais.

Darparwyd gan DVLA

Allweddumynediad llywodraeth y DU