Mae preswylfa arferol yn cyfeirio at y man lle mae unigolyn yn byw fel arfer lle mae ganddo gysylltiadau personol a/neu alwedigaethol. Os ydych yn berchen ar drwydded yrru a roddwyd gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), bydd gofyn hefyd bod gennych gyfeiriad parhaol yng Nghymru, yn Lloegr neu yn yr Alban.
Rhaid i yrwyr y Gymuned Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop (GE/AEE) sy'n dymuno ennill hawl ychwanegol fyw yng Ngwledydd Prydain fel arfer. Fel rheol, rhaid i yrwyr sydd wedi symud i Wledydd Prydain ar ôl bod yn byw'n barhaol mewn gwladwriaeth arall yn y GE/AEE fod wedi byw ym Mhrydain am 185 diwrnod yn y 12 mis diwethaf cyn gwneud cais am brawf gyrru a thrwydded lawn.