Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cais ar-lein i newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru

Gallwch newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru Brydeinig gyfredol ar-lein:

  • os yw eich trwydded yrru gennych (y ddwy ran os mai trwydded cerdyn-llun ydyw)
  • os ydych chi'n byw yng Ngwledydd Prydain
  • os ydy eich golwg yn ddigon da i fodloni'r gofyniad sylfaenol
  • os nad ydych wedi’ch rhwystro rhag gyrru ar hyn o bryd am unrhyw reswm
  • os oes gennych basport dilys y DU neu brawf arall o bwy ydych chi (os ydych yn cyfnewid trwydded bapur)
  • os gallwch ddweud lle rydych chi wedi byw dros y tair blynedd diwethaf

Noder: Os nad yw dwy ran eich trwydded cerdyn-llun gennych (y cerdyn-llun a phapur manylion D740), bydd angen i chi wneud cais am un newydd i gymryd ei lle a thalu ffi.

Pwysig

Er mwyn eich diogelu a'ch gwarchod, bydd DVLA yn cynnal profion adnabod os ydych yn gwneud cais ar-lein.

Os oes gennych drwydded bapur

Bydd DVLA yn gofyn am gopi electronig o'ch llun gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS) i'w roi ar eich trwydded newydd. Oni fydd hyn yn bosib, bydd angen i chi argraffu ffurflen gais, ei llenwi a'i hanfon drwy'r post gyda ffotograff. Mewn rhai amgylchiadau, bydd gofyn cael math benodol o ddogfen adnabod hefyd. Gweler y ddolen 'Eitemau y mae eu hangen drwy'r post' ar y dde am fanylion penodol.

Os oes gennych drwydded cerdyn-llun

Oni fydd DVLA yn gallu cadarnhau pwy ydych chi ar-lein, bydd angen i chi argraffu ffurflen gais, ei llenwi a'i hanfon drwy'r post.

Ni fydd yn bosib i chi adnewyddu eich llun ar-lein

Beth y mae angen i chi ei wybod

Wrth wneud cais, cewch Rif Adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth. Os oes gennych Rif Adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth yn barod, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw teipio hwnnw a'ch cyfrinair.

Bydd DVLA yn ceisio anfon eich trwydded yrru atoch o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cais.

Ydych chi’n barod?

Sicrhewch fod y canlynol gennych wrth law:

  • eich Rhif Adnabod Porth y Llywodraeth a'ch cyfrinair, os ydynt gennych
  • eich trwydded yrru
  • eich pasport y DU, os oes angen
  • manylion cyfeiriadau blaenorol

Hefyd, gwnewch yn siŵr bod eich argraffydd ymlaen a'i fod yn barod i'w ddefnyddio.

Os bydd angen i chi argraffu ffurflen i'w llenwi ond nad oes gennych argraffydd sy'n gweithio, peidiwch â phoeni, gallwch argraffu eich ffurflen o gyfrifiadur arall drwy ddefnyddio'r ddolen ar y dde 'Gweld neu argraffu eich cais presennol'.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU