Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth y mae angen i chi ei wybod

Porth y Llywodraeth

Wrth wneud cais, cewch Rif Adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth. Os oes gennych Rif Adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth eisoes, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw teipio hwnnw a'ch cyfrinair.

Pwysig

Pan fyddwch yn gwneud cais ar-lein, bydd DVLA yn cynnal profion adnabod er mwyn eich diogelu a'ch gwarchod. Oni all DVLA gadarnhau a dilysu pwy ydych chi'n llwyr cewch wybod hyn ar ddiwedd y cais. Yna bydd angen i chi argraffu, llenwi ac anfon ffurflen gais wedi'i chwblhau, sydd ar gael ar ddiwedd y cais.

Peidiwch â phoeni os na allwch ei hargraffu nawr. Rhoddir cymorth ynghylch sut i argraffu ar ddiwedd y cais.

Os oes gennych drwydded bapur

Gan nad yw DVLA yn cyhoeddi trwyddedau gyrru papur bellach, bydd angen llun a llofnod arnom ar gyfer eich trwydded. Os oes gennych basport digidol y DU, bydd DVLA yn ceisio cael y rhain yn electronig gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau.

Oni fydd hyn yn bosib, neu os nad ydych am i ni ddefnyddio'r llun ar eich pasport digidol, bydd angen i chi anfon llun atom drwy'r post. Bydd ffurflen cwblhau ar gael ar ddiwedd y cais ar-lein.

Os oes gennych drwydded cerdyn-llun

Os yw'r llun ar eich trwydded ar fin dod i ben a'ch bod eisiau adnewyddu eich llun neu'ch bod angen gwneud hynny ni fydd modd i chi wneud hyn gan ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein. I gael mwy o wybodaeth, darllenwch y cymorth sydd ar gael gyferbyn.

Os ydych wedi darllen a deall yr wybodaeth uchod a'ch bod am wneud cais ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU