Wrth wneud cais, cewch Rif Adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth. Os oes gennych Rif Adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth eisoes, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw teipio hwnnw a'ch cyfrinair.
Pan fyddwch yn gwneud cais ar-lein, bydd DVLA yn cynnal profion adnabod er mwyn eich diogelu a'ch gwarchod. Oni all DVLA gadarnhau a dilysu pwy ydych chi'n llwyr cewch wybod hyn ar ddiwedd y cais. Yna bydd angen i chi argraffu, llenwi ac anfon ffurflen gais wedi'i chwblhau, sydd ar gael ar ddiwedd y cais.
Peidiwch â phoeni os na allwch ei hargraffu nawr. Rhoddir cymorth ynghylch sut i argraffu ar ddiwedd y cais.
Y llun ar gyfer eich trwydded
Gan nad yw DVLA yn cyhoeddi trwyddedau gyrru papur bellach bydd angen llun a llofnod arnom ar gyfer eich trwydded. Os oes gennych basport digidol y DU, bydd DVLA yn ceisio cael y rhain yn electronig gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau.
Oni fydd hyn yn bosib neu os nad ydych am i ni ddefnyddio'r llun ar eich pasport digidol bydd angen i chi anfon llun atom drwy'r post. Bydd ffurflen cwblhau ar gael ar ddiwedd y cais ar-lein.
Os ydych wedi darllen a deall yr wybodaeth uchod a'ch bod am wneud cais ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod.