Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwisgo gwregys diogelwch a'r eithriadau

Dylai pob gyrrwr fod yn ymwybodol o'r gyfraith ynghylch gwisgo gwregys diogelwch yn seddi blaen a seddi ôl cerbyd, gan wybod pwy ddylai sicrhau bod y gyrrwr, plentyn neu deithiwr sy'n oedolyn yn gwisgo gwregys diogelwch. Mae hefyd rai eithriadau ar gyfer gwisgo gwregys diogelwch wrth yrru.

Y gyfraith

Mae'r gyfraith yn nodi mai eich cyfrifoldeb chi, y gyrrwr, yw sicrhau:

  • eich bod yn gwisgo gwregys diogelwch os oes un wedi'i osod
  • bod plentyn o dan dair oed yn gwisgo atalydd priodol yn y seddi blaen ac ôl
  • bod plentyn rhwng tair oed ac unarddeg oed, a phlentyn sydd o dan fetr a hanner mewn taldra (tua phum troedfedd) yn gwisgo atalydd plentyn os oes un ar gael yn y seddi blaen ac ôl; yn gwisgo gwregys diogelwch oedolyn yn y blaen a gwregys diogelwch oedolyn yn y cefn os oes un ar gael
  • bod plentyn sy'n ddeuddeg neu'n dair ar ddeg oed neu blentyn iau sy'n fetr a hanner neu'n dalach (tua phum troedfedd) yn gwisgo gwregys diogelwch oedolyn yn y seddi blaen ac ôl, os oes un ar gael

Mae'r gyfraith yn nodi bod teithiwr sy'n oedolyn ac yn bedair ar ddeg ac yn hŷn yn gyfrifol am wisgo gwregys diogelwch yn y seddi blaen ac ôl os oes rhai ar gael.

Cerbydau perthnasol

Seddi blaen pob cerbyd, gan gynnwys ceir, faniau, bysiau, bysiau moethus a cherbydau nwyddau lle mae gwregysau diogelwch wedi'u gosod. Seddi cefn ceir a bysiau bach lle mae gwregysau diogelwch wedi'u gosod. Er nad yw'r gyfraith ar hyn o bryd yn gofyn fod rhaid gwisgo gwregysau diogelwch yng nghefn bysiau mini mwy neu fysiau moethus, dylid eu gwisgo os oes rhai wedi'u gosod.

Eithriadau rhag gwisgo gwregys diogelwch

Ychydig iawn o yrwyr neu deithwyr na ddylai orfod gwisgo gwregys diogelwch. Fodd bynnag, un rheswm dros beidio â gwneud hynny fyddai ar sail feddygol. Os ydych chi'n credu na ddylech wisgo gwregys diogelwch ar sail feddygol, cysylltwch â'ch meddyg. Hwy a fydd yn penderfynu, ac os byddant yn cytuno, fe roddir ‘Tystysgrif Eithrio rhag Gorfod Gwisgo Gwregys Diogelwch' ffurfiol i chi’. Rhaid dangos y dystysgrif hon os bydd yr heddlu yn gofyn amdani.I

 gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

defnyddiol

Adran Diogelwch y Ffyrdd

Cyfeiriad

Yr Adran Drafnidiaeth

Adran 2/11, Great Minster House

76 Marsham Street

Llundain

SW1P 4DR

Rhif ffôn

020 7944 2046

Ffacs

020 7944 2029

Eich cyfeiriad e-bost

road.safety@dft.gsi.gov.uk



  • Contact
    Adran Diogelwch y Ffyrdd
  • Address
    Yr Adran Drafnidiaeth
    Zone 2/11, Great Minster House, 76 Marsham Street
    London
    SW1P 4DR
  • Phone
    020 7944 2046
  • Email
    road.safety@dft.gsi.gov.uk

Mwy o wybodaeth

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU