Caiff cofrestr cerbydau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ei chadw'n bennaf er mwyn gwybod pa gerbydau sydd ar ffyrdd cyhoeddus, i helpu i orfodi'r gyfraith a chasglu trethi, ac i wella diogelwch ar y ffyrdd.
Mae’r gyfraith yn mynnu bod yn rhaid i’r Asiantaeth amddiffyn preifatrwydd modurwyr unigol a sicrhau bod data personol yn cael ei ddefnyddio'n deg ac yn gyfreithlon. Fodd bynnag, er nad yw'r gofrestr gerbydau'n gofnod agored, o dan amgylchiadau arbennig fe ellir defnyddio'r data'n briodol ar gyfer dibenion eraill.
Mae'r darpariaethau sy'n ymwneud â rhyddhau gwybodaeth o'r gofrestr cerbydau wedi eu hen sefydlu ers y dyddiau cyn bodolaeth y DVLA. Roedd darpariaethau union yr un fath ar gael i gynghorau lleol pan oedden nhw'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb o gofrestru a thrwyddedu cerbydau.
Ar hyn o bryd, mae Rheoliad 27 o Reoliadau Cerbydau'r Ffordd (Cofrestru a Thrwyddedu) 2002 yn mynnu bod yr Asiantaeth yn rhyddhau gwybodaeth o'i chofrestr cerbydau i heddlu ac awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i ymchwilio i droseddau a chanfod pobl sy'n torri rheolau parcio, ac i unrhyw un sy'n dangos bod ganddynt ‘achos rhesymol’ i gael gweld y wybodaeth. Mae'r rheoliadau hefyd yn caniatáu codi tâl er mwyn talu am y gost o brosesu ceisiadau.
Ni ddisgrifir ‘achos rhesymol’ mewn deddfwriaeth, ond cysylltir rhyddhau'r wybodaeth fel arfer â diogelwch ar y ffordd, digwyddiadau sy'n digwydd o ganlyniad uniongyrchol i ddefnyddio'r cerbyd, gorfodi deddfwriaeth traffig ffordd a chasglu trethi. Cyn rhyddhau'r wybodaeth, rhaid i'r Asiantaeth werthuso'n ofalus y rhesymau dros wneud y cais, yn ogystal ag ystyried sut y defnyddir y wybodaeth.
Mae hyn yn golygu y caiff gwybodaeth ei rhyddhau'n gyfreithlon ar gyfer amrywiaeth o ddibenion dan y darpariaethau achos rhesymol. Rhestrir isod amgylchiadau a ystyriwyd yn ‘achosion rhesymol’ yn y gorffennol. Mae rhestr o gyrff a ystyriwyd yn rhesymol gan yr Asiantaeth hefyd ar gael.
Caiff gwybodaeth ei rhyddhau ar yr amod ei bod yn berthnasol i'r diben y gofynnwyd amdani, ac mai dim ond ar gyfer y diben hwnnw y'i defnyddir. Dan y Ddeddf Diogelu Data, mae cael gafael ar wybodaeth drwy ymhoniad anwir neu ddefnyddio'r wybodaeth ar gyfer unrhyw ddiben arall ac eithrio'r diben y rhyddhawyd hi yn drosedd. Bydd yr Asiantaeth yn cyfeirio unrhyw geisiadau amheus at y Comisiynydd Gwybodaeth i gael eu hymchwilio ac i'w herlyn lle bo hynny'n briodol.
Rhesymau dros ryddhau gwybodaeth oddi ar y gofrestr gerbydau
Os tybiwch fod rhywun wedi cael gafael ar eich manylion yn anghyfreithlon neu fod eich manylion wedi cael eu camddefnyddio, dylech ysgrifennu at: Rhyddhau Gwybodaeth / Release of Information, Adran Ymholiadau Talu Ffioedd, DVLA, Abertawe SA99 1AJ. Dylech gynnwys manylion ynghylch sut y camddefnyddiwyd y wybodaeth a rhif cofrestru'ch cerbyd. Bydd DVLA yn ymchwilio pob honiad lle mae rhywun wedi gofyn am wybodaeth yn anghyfreithlon a, lle bo hynny'n briodol, yn cyfeirio'r honiad at y Comisiynydd Gwybodaeth er mwyn erlyn.
Os nad ydych yn fodlon â'r ffordd y mae DVLA wedi delio â'ch cwyn, dylech gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow SK9 5AF.
Er bod DVLA yn awyddus i sicrhau mai dim ond dan amgylchiadau priodol y rhyddheir gwybodaeth, nid oes ganddo'r awdurdod i gyflafareddu mewn anghydfodau rhwng partïon. Rhaid i bartïon benderfynu ymysg ei gilydd ynghylch anghydfodau'n ymwneud ag amgylchiadau sy'n arwain at ddigwyddiad ac yn y blaen.
Dylid gwneud cais am wybodaeth o gofnodion DVLA drwy lythyr. Fe allwch chi ofyn am wybodaeth bersonol amdanoch chi, neu am wybodaeth am geidwaid cerbydau eraill. Gellir gwneud cais am wybodaeth am gerbydau ar-lein neu dros y ffôn.