Mewn rhai amgylchiadau gellir datgelu gwybodaeth o gofrestri'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn gyfreithlon. Mae'r ffordd y dylech fynd ati i wneud cais yn dibynnu ar y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Gellir gwneud cais am wybodaeth gan y DVLA ar-lein, dros y ffôn neu yn ysgrifenedig.
Fe allwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein i holi am fanylion cerbydau er mwyn gweld y wybodaeth benodol sydd gan DVLA am gerbyd, gan gynnwys blwyddyn ei wneuthuriad, y dyddiad y cofrestrwyd ef gyntaf, maint yr injan, y lliw, y dyddiad y daw'r ddisg drwydded/datganiad HOS presennol i ben a chyfradd dreth y cerbyd. Ni ryddheir unrhyw fanylion personol.
Mae gan DVLA ddau wasanaeth ffôn cyfradd uwch sy'n rhoi gwybodaeth am gerbydau. Cost y galwadau yw 49 ceiniog y funud ac mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8.00 am a 5.30 pm ar ddydd Sadwrn.
Y gwasanaeth archwilio cerbydau - rhif ffôn 0906 185 8585
Gallwch weld beth oedd y dyddiad y cofrestrwyd y cerbyd am y tro cyntaf, beth yw blwyddyn ei wneuthuriad, maint yr injan (cc), ei ollyngiadau CO2 yn ogystal â chadarnhau'r lliw. Ni ryddheir unrhyw fanylion personol.
Llinell dyddiad talu treth (dyddiad y daw'r dreth cerbyd i ben) - rhif ffôn 0906 765 7585
Mae'r gwasanaeth hwn yn rhoi gwybodaeth am y dyddiad y mae'r ddisg drwydded bresennol neu'r datganiad HOS yn dod i ben. Er bod cofnodion y cerbydau'n cael eu diweddaru drwy'r amser, mae'n bosib bod cais am drwydded cerbyd yn aros i gael ei phrosesu ac nad yw cofnod y cerbyd wedi'i ddiweddaru eto. Bydd y wybodaeth a roddir drwy'r gwasanaeth hwn yn gywir gan amlaf, ond ni ddylid ystyried hyn yn gadarnhad llwyr fod trwydded ar y cerbyd ar y pryd. Ni ryddheir unrhyw fanylion personol.
Drwy'r post y dylid gwneud ceisiadau am wybodaeth bersonol ynghylch ceidwad cerbyd arall; gwybodaeth am gyn-geidwad cerbyd sydd bellach wedi'i gofrestru yn eich enw chi; neu wybodaeth a ddelir amdanoch chi ar gofrestri'r Asiantaeth.
Rhyddhau gwybodaeth am geidwad cerbyd arall
Fe allwch chi gael enw a chyfeiriad ceidwad cofrestredig cerbyd arall os gallwch chi ddangos 'achos rhesymol' dros fod angen y wybodaeth. Cyn y rhyddheir gwybodaeth, rhaid i DVLA ystyried y rhesymau dros eich cais a sut y defnyddir y wybodaeth. Bydd methu â darparu'r dystiolaeth angenrheidiol, neu ffurflenni cais nad ydynt yn gyflawn, yn arwain at wrthod eich cais.
Noder; mae'n drosedd ceisio cael gafael ar wybodaeth bersonol sy'n groes i Adran 55 Deddf Diogelu Data 1998. Gellir rhoi dirwyon diderfyn yn Llys y Goron (neu hyd at uchafswm o £5,000 yn y Llys Ynadon) fel cosbau am gyflawni'r troseddau hyn.
Ceir tair ffurflen y gellir eu defnyddio i ofyn am wybodaeth. Dylech ddefnyddio'r ffurflen briodol yn dibynnu ar bwy ydych chi, a'ch rhesymau dros ofyn am wybodaeth:
Dylech ddarllen y nodiadau cyfarwyddo'n ofalus cyn ateb pob cwestiwn angenrheidiol.
Defnyddio'r ffurflenni V888/2 a V888/3
Rhaid i bob cwmni sy'n defnyddio'r ffurflenni V888/2 a V888/3 ddarparu mwy o fanylion am eich busnes gyda'r cais. Mae'r ddolen isod yn rhoi arweiniad ar yr hyn sydd ei angen.
Wrth ddefnyddio'r ffurflen V888/3 rhaid i chi hefyd ddangos tystiolaeth bod cynllun cosbi ariannol yn cael ei weithredu. Nid oes angen i gwmnïau gorfodi ddarparu contractau, ond dylent gynnwys llythyr gan y landlord (ar bapur pennawd) yn cadarnhau eu bod, wrth weithredu cyfyngiadau parcio, yn gweithredu gyda chymeradwyaeth y landlord. Dylai'r llythyrau hefyd gynnwys dyddiad dechrau'r contract a'r dyddiad y daw i ben, lleoliad y safleoedd, a dylent nodi a ddefnyddir camerâu cylch cyfyng neu system rhoi tocynnau â llaw.
Os oes rhaid i gwmnïau gorfodi anfon copïau o gontractau, dim ond y tudalennau perthnasol - y rhai sy'n cadarnhau dyddiadau, lleoliadau'r safleoedd a threfniadau wrth roi tocynnau - y dylent eu hanfon.
Y ffi ofynnol
Y ffi i gael gwybodaeth am geidwad cerbyd ar ddyddiad penodol yw £2.50. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, megis copi o ddogfen neu fanylion ychwanegol am y ceidwad, bydd angen talu ffi o £5.00 ar gyfer pob cerbyd. Mae'n ofynnol talu'r ffi er mwyn talu am y gost o ddarparu'r wybodaeth.
I ble y dylech anfon eich cais
Unwaith y bydd y ffurflen wedi ei llenwi, dylech ei hanfon gyda'r dogfennau angenrheidiol i'r cyfeiriad canlynol:
Yr Adran Ymholiadau Talu Ffioedd
DVLA
Abertawe
SA99 1AJ
Mynediad Awdurdodedig Amodol ar gyfer mynediad electronig
Gall rhai cwmnïau ofyn am wybodaeth, a'i derbyn, drwy gysylltiad diogel.
Manylion ceidwad blaenorol eich cerbyd
Fel ceidwad cofrestredig presennol cerbyd cewch ofyn am wybodaeth ynghylch hanes eich cerbyd a cheidwaid blaenorol eich cerbyd. Rhaid i chi gwblhau'r adrannau perthnasol ar ffurflen V888 a'i hanfon gyda'r ffi o £5.00 i'r cyfeiriad uchod.
Rhyddhau gwybodaeth amdanoch chi o gofnodion y cerbydau
Mae'r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi'r hawl i chi gael gweld eich gwybodaeth bersonol a gedwir ar gofnodion DVLA. Rhaid gwneud ceisiadau am wybodaeth yn ysgrifenedig, gan roi eich enw a'ch cyfeiriad yn llawn, manylion ynghylch rhif(au) cofrestru'ch cerbyd(au) a manylion eich cais yn llawn. Y ffi ar gyfer y gwasanaeth hwn yw £5.00 a dylid anfon ceisiadau at y cyfeiriad uchod.
Rhyddhau gwybodaeth amdanoch chi o gofnodion y trwyddedau gyrru
Rhaid gwneud ceisiadau am wybodaeth yn ysgrifenedig. Dylech gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad yn llawn, rhif eich trwydded yrru neu eich dyddiad geni os nad yw'n hysbys beth yw rhif eich trwydded. Y ffi ar gyfer y gwasanaeth hwn yw £5.00 a dylid anfon ceisiadau at Ymholiadau Gwrthrych Data (DCS) D4, DVLA, Abertawe, SA6 7JL.