Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth i’w wneud os yw’ch cerbyd wedi’i sgrapio neu os nad oes modd ei adfer

Dim ond os byddwch chi'n malu neu'n dinistrio’r cerbyd eich hun y dylech chi ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) bod y cerbyd wedi’i sgrapio. Os yw'r cerbyd y tu hwnt i'w adfer, bydd y cwmni yswiriant yn rhoi gwybod i'r DVLA ar eich rhan.

Dinistrio'r cerbyd eich hun

Os byddwch chi'n malu neu'n dinistrio'r cerbyd eich hun, dylech roi gwybod i'r DVLA drwy gwblhau'r blwch 'sgrapio' ar y ddogfen neu'r dystysgrif gofrestru a nodi dyddiad y sgrapio. Anfonwch y dystysgrif at DVLA, Abertawe SA99 1BA.

Gwerthu'r cerbyd i'w sgrapio

Mae gwerthwyr sgrap a datgymalwyr cerbydau bellach yn cael eu hadnabod fel canolfannau trin cymeradwy (ATF), a byddant yn trin cerbydau ar ddiwedd eu hoes mewn ffordd sy'n parchu'r amgylchedd. Os ydych chi'n trosglwyddo'ch cerbyd i ATF a'i fod yn cael ei ddinistrio ar unwaith, rhowch eich tystysgrif gofrestru iddynt. Bydd rhai mathau penodol o gerbydau, gan gynnwys ceir a faniau hyd at 3,500kg, yn cael tystysgrif ddinistrio (CoD). Os na ddylid dinistrio'r cerbyd, dylech lenwi adran V5C/3 y dystysgrif gofrestru i drosglwyddo perchnogaeth y cerbyd i'r ATF. Anfonwch y V5/3C at DVLA, Abertawe SA99 1BD.

Os oes gennych yswiriant trydydd parti

Os oes gennych yswiriant trydydd parti ar eich car a bod ei ffrâm wedi’i difrodi’n sylweddol mewn damwain, pan fyddwch yn newid perchnogaeth bydd gofyn i chi ildio’r ddogfen gofrestru i'r DVLA cyn cael gwared ar y cerbyd. Ystyr difrod sylweddol yw y byddai cost atgyweirio’r cerbyd yn fasnachol yn fwy na gwerth y car.

Beth sy'n digwydd nesaf

Chi fydd yn gyfrifol am y cerbyd nes i chi roi gwybod i'r DVLA eich bod yn sgrapio neu'n gwerthu'ch cerbyd. Unwaith y byddwch wedi hysbysu'r DVLA, byddwch yn derbyn llythyr cydnabod, a fydd yn cadarnhau nad ydych yn atebol am y cerbyd mwyach. Os na fyddwch chi'n derbyn y llythyr cydnabod o fewn pedair wythnos, ffoniwch 0870 240 0010. Dylai cwsmeriaid sydd â nam ar eu clyw neu eu llais, a bod ganddynt ffôn testun/minicom, ffonio 01792 782 756.

Y cwmni yswiriant yn gwneud taliad colled ar eich cerbyd

Os yw eich cwmni yswiriant yn penderfynu bod eich cerbyd y tu hwnt i'w adfer, rhaid i chi roi'r cerbyd iddynt yn gyfnewid am daliad colled. Bydd gofyn i chi:

  • lenwi adran V5/3 neu V5C/3 ‘Hysbysiad gwerthu neu drosglwyddo’ ar eich dogfen neu'ch tystysgrif gofrestru a’i hanfon at DVLA, Abertawe SA99 1BD
  • rhoi gweddill y ddogfen neu'r dystysgrif gofrestru i’r cwmni yswiriant

Yn sgîl trefniant arbennig rhwng y DVLA a'r diwydiant yswiriant, efallai y bydd eich cwmni yswiriant yn gofyn i chi am y ddogfen neu'r dystysgrif gofrestru gyfan, yn ei llenwi ar eich rhan ac yn ei hanfon i'r DVLA. Os penderfynwch chi wneud hyn, dylech ysgrifennu at DVLA, Abertawe SA99 1BR yn nodi'r dyddiad y trosglwyddwyd y cerbyd i'r cwmni yswiriant ynghyd â'u henw a'u cyfeiriad, er mwyn i chi beidio â bod yn atebol am y cerbyd mwyach.

Rhif cofrestru personol ar y cerbyd

Os byddwch yn sgrapio'ch cerbyd neu’n gorfod cael gwared ag ef a bod gennych rif arbennig yr hoffech chi ei gadw, rhaid i chi ei drosglwyddo neu ei gadw cyn cael gwared â'r cerbyd. Os na wnewch chi hyn, byddwch yn colli eich hawl i gadw'r rhif hwnnw. Bydd angen i chi sicrhau nad yw'ch cwmni yswiriant yn cael gwared â'r cerbyd a'i fod ar gael i'w archwilio. Am ragor o wybodaeth darllenwch lyfryn INF 46 'Rhifau cofrestru a Chi', sydd ar gael o'r DVLA.

Mae'r cerbyd wedi'i ddifrodi'n ddamweiniol neu y tu hwnt i'w arbed - Sut i gael archwiliad adnabod cerbyd (VIC)

Ers 7 Ebrill 2003, rhaid i yswirwyr hysbysu'r DVLA am bob car a bennir yn anadferadwy yng nghategorïau adfer A, B neu C. Bydd yr hysbysiad hwn yn gosod 'marciwr VIC' ar gofnod DVLA y cerbyd. Tra bo marciwr VIC wedi'i osod, ni fydd y DVLA yn cyhoeddi tystysgrif cofrestru V5C, na ffurflen atgoffa am drwydded cerbyd V11. Rhaid i'r car basio VIC er mwyn i'r marciwr VIC gael ei dynnu.

Cynhelir y VIC gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA). Fodd bynnag er mwyn iddynt gynnal VIC ar gar, rhaid bod marciwr VIC wedi'i osod ar gofnod DVLA y cerbyd. I weld os oes marciwr VIC wedi'i osod cysylltwch â VOSA ar 08706 060 440. I gael VIC bydd angen i chi gyflwyno ffurflen gais wedi'i chwblhau, ynghyd â'r ffi gywir, yn uniongyrchol i VOSA. Fe'ch hysbysir am apwyntiad wedi i VOSA brosesu eich cais.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU