Cyn y gallwch drethu’ch cerbyd, bydd angen yswiriant addas arnoch, ac os oes angen, bydd angen cael prawf MOT ar y cerbyd. Bydd yswiriant annigonol, MOT hwyr, tystysgrifau anghywir, coll neu hwyr yn gallu’ch atal rhag trethu'ch cerbyd ar amser.
Er mwyn trethu’ch cerbyd, rhaid i chi gael yswiriant sy’n gwneud y canlynol:
Gall y polisi yswiriant ar gyfer eich cerbyd chi adael i chi yrru unrhyw gerbyd arall gyda chaniatâd y perchennog. Ond, ni ellir defnyddio’ch polisi chi fel tystiolaeth o yswiriant dilys i drethu unrhyw gerbyd arall.
Os nad yw eich yswiriant ar gyfer dibenion trethu’n glir, efallai y bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol. Cysylltwch â'ch cwmni yswiriant i gael cyngor.
Dogfennau print neu brint-laser yw’r rhain fel arfer, neu ddogfennau math cerdyn credyd plastig.
Nid yw’r dogfennau canlynol yn dderbyniol:
Tystysgrif yswiriant wedi’i dwyn, ei cholli neu ei difrodi
Gofynnwch am dystysgrif yswiriant neu nodyn dros-dro ddyblyg gan eich cwmni yswiriant.
Disgwyl i’ch tystysgrif yswiriant gyrraedd yn y post neu iddi gael ei diweddaru ar-lein
Allwch chi ddim trethu’ch cerbyd tan y bydd eich tystysgrif yswiriant wedi cyrraedd neu tan y bydd manylion yr yswiriant ar gyfer eich cerbyd wedi’u diweddaru ar y Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau. Yn y cyfamser, rhaid i chi gadw’ch cerbyd oddi ar y ffordd.
Mae angen prawf MOT bob blwyddyn ar gyfer:
Cael gwybod pryd y bydd angen MOT arnoch
Edrychwch ar ddyddiad dod-i-ben eich tystysgrif MOT gyfredol ar-lein neu drwy ffonio ‘Gwasanaeth Gwirio Statws Tystysgrifau MOT’ ar 0870 330 0444.
Rhaid i chi ddarparu tystysgrif prawf MOT sy'n ddilys ar y diwrnod y daw'r ddisg treth i rym. Ni ellir defnyddio tystysgrif sy’n dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis ee 30 Ebrill os yw’r ddisg treth i ddechrau ar ddiwrnod cyntaf y mis dilynol ee 1 Mai. Rhaid i’r dystysgrif fod yn wreiddiol; nid yw llungopi’n dderbyniol.
Tystysgrif MOT wedi’i dwyn, ei cholli neu ei difrodi
Gellir cael copi dyblyg gan unrhyw orsaf brofi MOT. Bydd angen i chi ddarparu rhif cofrestru’r cerbyd a’r cyfeirnod a ddangosir ar eich Tystysgrif Cofrestru. Bydd angen talu uchafswm o £10.
Os nad oes yn rhaid i’ch cerbyd gael prawf MOT, bydd angen i chi lenwi ffurflen V112 ‘Hawlio eithriad rhag profi’ i’w chyflwyno yn lle’r dystysgrif MOT. Dangosir rhestr o'r cerbydau sydd wedi’u heithrio ar y ffurflen V112.
Os ydych yn bwriadu adnewyddu eich treth cerbyd, dylech wneud hynny cyn i’ch disg treth gyfredol ddod i ben. Ond, nid yw hyn bob amser yn bosibl os ydych yn aros am yswiriant neu’n cael MOT ar gyfer eich cerbyd.
Byddwch yn cyflawni trosedd os byddwch yn defnyddio’ch cerbyd neu'n ei gadw ar ffordd gyhoeddus heb ddisg treth gyfredol. Os na allwch gael disg treth, rhaid i chi dynnu'ch cerbyd oddi ar y ffordd.
Tra bydd eich cerbyd oddi ar y ffordd, bydd gennych 14 diwrnod i gael disg treth neu wneud datganiad HOS.
Gallwch yrru'ch cerbyd yn ôl ac ymlaen i orsaf brofi MOT am brawf sydd wedi ei drefnu ymlaen llaw gyhyd â'i fod wedi ei yswirio’n ddigonol.
Mae hyn yn berthnasol hefyd i gerbydau a yrrir yn ôl ac ymlaen i brawf sydd wedi’i drefnu ymlaen llaw mewn gorsaf Archwilio Cerbydau (VIC), gorsaf gymeradwy sy’n profi pwysau cerbyd a phrawf llygredd is.