Sut i drethu lori, bws a cherbydau eraill gyda ffurflen atgoffa
Oddeutu tair wythnos cyn i'ch disg treth ddod i ben, dylech dderbyn ‘Cais am drwydded cerbyd/hysbysiad oddi-ar-y-ffordd statudol’ (ffurflen atgoffa V11) neu 'Gais am drwydded yrru HGV/datganiad HOS’ (ffurflen atgoffa V85/1) gan DVLA.
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen atgoffa i adnewyddu eich treth ar-lein, yn bersonol neu dros y ffôn.
Pryd i wneud cais
Os yw eich treth yn dod i ben ddiwedd y mis, gallwch ei hadnewyddu o’r 15fed o’r mis ymlaen.
Trethu ar-lein neu dros y ffôn
Defnyddiwch y cyfeirnod ar eich ffurflen atgoffa V11, V85/1 neu ar eich Tystysgrif Cofrestru.
Trethu gyda ffurflen atgoffa V11 yn un o ganghennau Swyddfa'r Post®
Defnyddiwch y ffurflen atgoffa mewn unrhyw swyddfa bost sy’n rhoi disgiau treth neu drwy'r post i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen atgoffa. Dychwelir y ffurflen atgoffa atoch pan gewch chi'r ddisg treth.
Dylech fynd â’r canlynol gyda chi neu eu hanfon:
- y ffurflen atgoffa V11 wedi’i llenwi
- tystysgrif yswiriant ddilys neu nodyn yswiriant dros dro
- tystysgrif prawf MOT, cerbydau cludo teithwyr (PSV) neu gerbydau nwyddau dilys
- tystysgrif llygredd is ddilys - os oes ei hangen
- y taliad a ddangosir ar y ffurflen atgoffa
Trethu gyda ffurflen atgoffa HGV V85/1 mewn swyddfa DVLA leol
Dylech fynd â’r canlynol gyda chi neu eu hanfon:
- y ffurflen atgoffa V85/1 wedi’i llenwi
- tystysgrif Cofrestru – os nad yw ar gael, bydd angen i chi esbonio pam
- tystysgrif yswiriant ddilys neu nodyn yswiriant dros dro
- tystysgrif prawf MOT, cerbydau cludo teithwyr (PSV) neu gerbydau nwyddau dilys
- tystysgrif platio – os nad yw'r Tystysgrif Cofrestru ar gael neu os yw'r cerbyd wedi ei ail-blatio ers rhoddwyd y ddisg treth ddiwethaf
- tystysgrif llygredd is ddilys - os oes ei hangen
- y taliad a ddangosir ar y ffurflen atgoffa
Newid enw neu gyfeiriad
Ysgrifennwch y manylion newydd yn adran chwech eich Tystysgrif Cofrestru, ei llofnodi a’i chynnwys gyda'ch cais.