Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i drethu lori, bws a cherbydau eraill heb ffurflen atgoffa

Gallwch drethu’ch cerbyd gan ddefnyddio V10 ‘Cais am drwydded cerbyd’ neu V85 ‘Ffurflen gais am drwydded HGV’. Bydd y dogfennau sydd gennych yn penderfynu a allwch chi gael eich disg treth ar-lein neu mewn swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol.

Defnyddio V10 ‘Cais am drwydded cerbyd’ neu V85 ‘Ffurflen gais am drwydded HGV’

Defnyddiwch V10 ‘Cais am drwydded cerbyd’ i drethu bws, bws llygredd is, cerbyd cludo teithwyr anabl, cludiant cyffredinol, cludiant cyffredinol llygredd is, cerbyd cludo-i’r-garej dan 3,500kg, cerbyd arbennig dros 3,500kg, cerbydau argyfwng, cerbyd arbennig treth is a cherbyd â defnydd cyfyngedig.

Defnyddiwch V85 ‘Ffurflen Gais am drwydded HGV’ i drethu cerbyd nwyddau trwm (HGV), HGV llygredd is, HGV gydag ôl-gerbyd, HGV llygredd is gydag ôl-gerbyd, HGV preifat, ôl-gerbyd arbennig, cerbydau mathau arbennig, cerbydau mathau arbennig llygredd is, cerbyd ynys bychan, cerbyd cludo-i’r garej, trafnidiaeth gyfun neu drafnidiaeth gyfun llygredd is.

Pryd i wneud cais

Os yw eich treth yn dod i ben ddiwedd y mis, gallwch ei hadnewyddu o’r 15fed o’r mis ymlaen.

Os yw eich cerbyd wedi bod heb dreth, oherwydd eich bod newydd ei brynu, y disg treth wedi dod i ben neu os oes datganiad HOS mewn grym, gallwch ei drethu o ddiwrnod cyntaf y mis pan fyddwch yn gwneud cais.

Os ydych am i’r ddisg treth ddechrau ar ddiwrnod cyntaf y mis calendr nesaf, allwch chi ddim trethu eich cerbyd mwy na dau ddiwrnod ymlaen llaw.

Trethu ar-lein neu dros y ffôn

Os mai chi yw’r ceidwad cofrestredig, gallwch adnewyddu’ch treth trwy ddefnyddio'r cyfeirnod ar eich Tystysgrif Cofrestru.

Trethu gyda Thystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd

Gallwch drethu un ai drwy bostio neu ymweld yn bersonol â'ch Swyddfa DVLA Leol agosaf.
 
Dylech fynd â’r canlynol gyda chi neu eu hanfon:

  • Tystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd
  • V10 ‘Cais am drwydded cerbyd’ neu V85 ‘Ffurflen gais am drwydded HGV’ wedi’i llenwi
  • tystysgrif yswiriant ddilys neu nodyn yswiriant dros dro
  • tystysgrif prawf  MOT, cerbydau cludo teithwyr (PSV) neu gerbydau nwyddau dilys
  • tystysgrif platio – os nad yw'r Tystysgrif Cofrestru ar gael neu os yw'r cerbyd wedi ei ail-blatio ers rhoddwyd y ddisg treth ddiwethaf
  • tystysgrif llygredd is ddilys - os oes ei hangen
  • y tâl am y dreth cerbyd

Dim ond am ddau fis ar ôl i chi brynu’r cerbyd y gellir defnyddio’r Atodiad Ceidwad newydd. Os yw’n hen, bydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Cofrestru yn eich enw chi – ewch i ‘Trethu heb Dystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd’ isod.

Newid enw a/neu gyfeiriad

Ysgrifennwch y manylion newydd neu unrhyw gywiriadau yn adran chwech eich Tystysgrif Cofrestru.

Ffurflenni cais V10, V85 a V62

Fe allwch lwytho ffurflenni V10, V85 a V62 oddi ar y we neu eu casglu o’ch swyddfa DVLA leol agosaf.

Trethu heb Dystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd

Gallwch drethu’ch cerbyd os mai chi sy’n cael eich enwi fel y ceidwad cofrestredig ar gofnodion DVLA.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen V62 ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C)’ a thalu £25 (ffi am Dystysgrif Cofrestru ddyblyg). Dylech ei chynnwys gyda V10 neu V85 wedi'i llenwi, dogfennau ategol a’r taliad am y dreth cerbyd.

Os yw eich cyfeiriad wedi newid, bydd angen i chi ddarparu eich trwydded yrru, datganiad banc neu gymdeithas adeiladu wreiddiol, neu fil diweddar gan un o’r prif wasanaethau. Os yw’ch enw wedi newid, bydd angen i chi ddarparu’ch tystysgrif priodas, archddyfarniad nisi/absoliwt neu ddatganiad gweithred newid enw.

Os nad chi sy’n cael eich enwi fel y ceidwad cofrestredig ar gofnodion DVLA ni allwch drethu’r cerbyd. Bydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Cofrestru yn eich enw chi. I gael y dystysgrif, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62 'Ffurflen gais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd' a'i phostio i DVLA, Abertawe, SA99 1DD. Efallai y bydd angen i chi aros am hyd at bedair wythnos am y dystysgrif newydd. Yn y cyfamser, dylech gadw’ch cerbyd oddi ar y ffordd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU