Gallwch wneud cais am ad-daliad ar dreth cerbyd os mai chi yw ceidwad cofrestredig presennol y cerbyd neu os mai chi oedd ceidwad cofrestredig diwethaf y cerbyd. Rhaid bodloni amodau penodol cyn y telir ad-daliad.
Rhaid postio'r ddisg treth a'r cais am ad-daliad cyn diwrnod cyntaf y mis yr ydych yn hawlio amdano. Anfonwch hwy at yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn Abertawe neu ewch â nhw i'ch swyddfa DVLA leol agosaf.
Ni ddylech wneud cais am ad-daliad os ydy rhif cofrestru eich cerbyd ar ganol cael ei drosglwyddo neu ei gadw.
Gallwch wneud cais am ad-daliad ar eich treth cerbyd gyda disg treth neu heb ddisg treth.
Gyda disg treth
I gael ad-daliad bydd angen i chi lenwi ffurflen V14 'Cais am ad-daliad ar dreth cerbyd'. Anfonwch y ffurflen a’r ddisg treth i'r Adran Ad-daliadau, DVLA, Abertawe, SA99 1AL.
Heb ddisg treth
I gael ad-daliad bydd angen i chi lenwi ffurflen V33 ‘Cais am ad-daliad heb ddisg treth i’w ildio’. Anfonwch y ffurflen i'r Adran Ad-daliadau, DVLA, Abertawe, SA99 1AL.
Dim ond mewn swyddfeydd DVLA lleol y mae ffurflen V33 ar gael, neu drwy ffonio 0300 790 6802.
Cerbyd wedi'i ddwyn
Gan y bydd y rhan fwyaf o gerbydau yn cael eu canfod o fewn ychydig ddyddiau iddynt gael eu dwyn, disgwyliwch am saith niwrnod o leiaf cyn gwneud cais am ad-daliad.
Os na fydd y ddisg treth gyda’r cerbyd, bydd angen i chi roi manylion y lladrad a rhif cyfeirnod y trosedd a roddwyd gan yr heddlu ar y ffurflen V33. Os bydd y ddisg treth yn dod i'r golwg ar ôl i chi gael ad-daliad, rhaid i chi ddychwelyd y ddisg gyda llythyr esboniadol i’r Adran Ad-daliadau, DVLA, Abertawe SA99 1AL.
Bydd angen i chi wneud datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol) yr un pryd ag y byddwch yn gwneud cais am ad-daliad, os ydych chi'n cadw'r cerbyd ac yn ei dynnu oddi ar y ffordd gyhoeddus.
Dylai llythyr cydnabyddiaeth gael ei anfon atoch o fewn pedair wythnos ac fe'i anfonir ar wahân i'r ad-daliad. Os na fyddwch yn cael y llythyr, cysylltwch â llinell Ymholiadau Cwsmeriaid DVLA.
Bydd ad-daliad yn cael ei roi am bob mis llawn sydd ar ôl ar y ddisg treth ar yr adeg y byddwch yn gwneud cais am ad-daliad. Os oes gennych ddisg treth chwe mis, fe daloch chi ffi weinyddol ychwanegol o 10 y cant adeg ei brynu. Ni chaiff y ffi hon ei chynnwys fel rhan o’ch ad-daliad.
Codi tâl gweinyddu o £7 os nad yw’r ddisg treth yn cael ei ddychwelyd i DVLA.
Ni ellir ôl-ddyddio ad-daliad.
Mae’n cymryd rhwng tair a chwe wythnos i brosesu ad-daliadau. Gadewch chwe wythnos i'r ad-daliad gyrraedd cyn gwneud ymholiadau.