Os ydych yn defnyddio neu’n cadw cerbyd ar ffordd gyhoeddus, mae’n rhaid i chi arddangos disg treth ddilys arno. Fel ceidwad cofrestredig y cerbyd, chi sy’n gyfrifol am drethu’r cerbyd neu lenwi datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol) os yw’r cerbyd i’w gadw oddi ar y ffordd.
I drethu'ch cerbyd, bydd angen y canlynol arnoch:
Ni ellir trethu cerbyd sydd wedi’i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon yng Nghymru, Lloegr na’r Alban.
Dylech arddangos eich disg treth ar ffenestr flaen eich cerbyd ar ochr y teithiwr (ochr y palmant). Os nad oes gan eich cerbyd ffenestr flaen neu os oes gennych feic modur neu gerbyd ochr, dylech arddangos eich disg treth ar eich cerbyd ar ochr y palmant.
Ni ellir trosglwyddo’r ddisg treth rhwng cerbydau.
Dylech wneud datganiad HOS os nad ydych yn defnyddio neu’n cadw’ch cerbyd ar ffordd gyhoeddus.
Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn cynnal archwiliad cyfrifiadur bob mis, yn ogystal ag archwiliadau ar ochr y ffordd, i ganfod y cerbydau hynny sydd heb ddisg treth ddilys.
Bydd dogfennau cyfredol yn eich helpu i drethu’ch cerbyd neu wneud datganiad HOS ar amser ac osgoi cosb.
Tystysgrif Cofrestru
Dywedwch wrth DVLA pan fyddwch yn newid eich enw, eich cyfeiriad neu fanylion eich cerbyd er mwyn iddynt anfon eich ffurflen atgoffa V11 atoch ar amser.
MOT ac yswiriant
Gwnewch yn siŵr fod eich tystysgrifau MOT ac yswiriant yn ddilys ar y dyddiad yr ydych am i'ch disg treth ddechrau. Cofiwch gadw nodyn o unrhyw ddyddiadau adnewyddu i'ch atgoffa.
Rhowch wybod i DVLA os byddwch yn gwerthu, yn trosglwyddo, yn sgrapio neu'n allforio’ch cerbyd, neu fel arall byddwch chi’n parhau i fod yn gyfrifol am ei drethu er eich bod wedi cael gwared arno. Llenwch yr adran briodol yn eich Tystysgrif Cofrestru a'i hanfon i DVLA, Abertawe SA99 1BA. Dylech dderbyn llythyr cydnabyddiaeth o fewn pedair wythnos, y dylech ei gadw fel prawf fod cofnodion DVLA wedi'u diweddaru. Cysylltwch ag adran ymholiadau cwsmeriaid DVLA os na fyddwch wedi’i dderbyn.