Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Trethu eich cerbyd ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch drethu eich cerbyd ar-lein neu dros y ffôn os:

  • mai chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd ac y caiff eich enw, cyfeiriad ac unrhyw newidiadau i'ch cerbyd eu diweddaru gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
  • oes gennych Cais am Drwydded Cerbyd/Datganiad Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol (ffurflen atgoffa V11) neu Dystysgrif Cofrestru (V5C)
  • oes gennych yswiriant dilys sy'n cynnwys defnyddio'r cerbyd ar y diwrnod y bydd y ddisg dreth yn dod i rym
  • oes gennych MOT dilys, prawf Cerbyd Nwyddau neu Gerbyd Gwasanaeth i Deithwyr (PSV) (os oes ei angen) sy'n ddilys pan ddaw'r ddisg dreth i rym
  • oes gennych gerdyn debyd neu gerdyn credyd - codir tâl gwasanaeth o £2.50 os byddwch yn defnyddio cerdyn credyd, ni chodir tâl am ddefnyddio cerdyn debyd
  • oes gennych DLA404 dilys os oes gennych yr hawl i gael eich eithrio oherwydd anabledd

Pan fyddwch yn barod

Sicrhewch fod y canlynol gennych wrth law:

  • y cyfeirnod 16 digid sydd wedi'i nodi yn y blwch melyn ar flaen eich ffurflen atgoffa V11 neu
  • y cyfeirnod 11 digid a ddangosir ar du blaen eich Tystysgrif Cofrestru a rhif cofrestru’ch cerbyd
  • eich DLA404 os oes gennych yr hawl i gael eich eithrio oherwydd anabledd
  • eich cerdyn debyd neu gerdyn credyd

Gwneud cais dros y ffôn

Gwnewch gais dros y ffôn ar 0870 850 4444. Ffôn testun/minicom 0870 850 4445.

Methu â defnyddio'r gwasanaeth?

Bydd angen i chi drethu'ch cerbyd yn y ffordd arferol.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU