Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Trwyddedu cerbydau'n electronig - raffl fawr

Mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), gan weithio mewn partneriaeth â SEAT, wedi lansio raffl fawr rad ac am ddim. Fe allech ennill car wrth adnewyddu eich treth cerbyd dros y misoedd nesaf.

Ennill SEAT Ibiza

Bydd cwsmeriaid sy'n trethu eu cerbyd neu'n gwneud datganiad HOS ar-lein neu dros y ffôn ar 0300 123 4321 yn cael y cyfle i ennill un o dri SEAT Ibiza Ecomotive 1.4 TDI newydd sbon yn raffl fawr y mis. 

Mae DVLA yn dibynnu ar wybodaeth gywir ac wedi'i ddiweddaru i allu rhoi gwybod i enillwyr y raffl fawr cyn gynted â phosibl. Os ydych am fod enillwr posibl, cofiwch roi gwybod i DVLA os ydych chi wedi newid eich enw a chyfeiriad.

Lleihau ôl troed carbon

Mae'r llywodraeth am annog y symudiad tuag at ddefnyddio cerbydau ag allyriad CO2 isel er mwyn lleihau effaith gyffredinol moduro ar yr amgylchedd. Drwy drefniant partneriaeth â SEAT, mae DVLA wedi sicrhau tri char y mis i'w rhoi'n wobr yn y raffl fawr, heb i DVLA na'r trethdalwr orfod talu dim.

Gwahoddwyd pob gwneuthurwr cerbydau sy’n cynhyrchu cerbydau ag allyriad CO2 isel ynghyd â sgôr diogelwch da i gymryd rhan. O'r rheini a oedd â diddordeb, yr oedd y SEAT Ibiza Ecomotive 1.4 TDI yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd gan fod ei allyriadau CO2 yn 99g/km ac nad oes angen talu treth cerbyd arno ar hyn o bryd gan ei fod yn dod dan fand treth A.

Enillwyr

Y Gweinidog dros Drafnidiaeth, Jim Fitzpatrick AS a Llywydd SEAT, Enrich Schmitt, yn cyflwyno'r allweddi i'r enillwyr, J Dixon a K Pulfrey yn Sioe Foduro Ryngwladol Prydain

Enillwyr raffl wobrau mis Tachwedd
(ymgeiswyr 1 Hydref - 31 Hydref) yn amodol ar y cadarnhad ei bod wedi cydymffurfio a thelerau ac amodau’r raffl wobrau yw:

J Shaw - West Yorkshire
C Hyde - Hampshire
J Fitzgerald - Lerpwl

Enillwyr Raffl Wobrau mis Hydref
(ymgeiswyr 1 Medi - 30 Medi)

D Baker - Tyne and Wear
R Nicholson - Cambridgeshire
K Abbott - Llundain

Enillwyr raffl fawr mis Medi
(enwau a gyflwynwyd rhwng 1 Awst i 31 Awst),

I Bailey - Derbyshire
A Davies - Monmouthshire
A C Erections Serv LLP - Lanarkshire

 

Allweddumynediad llywodraeth y DU