Rhaid i chi gael disg treth newydd yn lle un sydd ar goll, wedi ei dwyn, ei difwyno neu ei dinistrio, neu os nad oes modd ei darllen oherwydd bod y ddisg wedi colli ei lliw. Gallwch gael disg treth ddyblyg yn bersonol neu drwy’r post gan ddefnyddio ‘Ffurflen gais am ddisg trwydded ddyblyg i gerbyd' V20.
Gwneud cais yn bersonol neu drwy’r post yn eich swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol agosaf.
Dylech fynd â’r canlynol gyda chi neu eu hanfon:
Os nad oes gennych Dystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd, bydd angen i chi lenwi V62 'Ffurflen gais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd V5C’ ynghyd â £25 (ffi am Dystysgrif Cofrestru) a rhowch hwn gyda'ch cais am ddisg treth ddyblyg.
Dim ond am ddau fis ar ôl i chi brynu’r cerbyd y gellir defnyddio’r Atodiad Ceidwad newydd. Os yw'n hen, bydd angen i chi lenwi V62 ‘Ffurflen gais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C) yn ei le. Dylech gynnwys hwn a’r Atodiad Ceidwad Newydd gyda'ch cais. Does dim angen y ffi o £25.
Fe allwch lwytho ffurflenni V20 a V62 oddi ar y we neu eu casglu o unrhyw gangen o Swyddfa'r Post® neu swyddfa DVLA leol.
Y ffi ar gyfer disg treth ddyblyg yw £7 ac fel arfer ni chewch ad-daliad unwaith y bydd y swyddfa DVLA leol wedi derbyn y cais.
Does dim rhaid i chi dalu:
neu:
Cewch holi am ddyddiad dod-i-ben eich disg treth drwy wneud 'ymholiad am gerbyd' ar-lein. Nodwch rif cofrestru a gwneuthuriad eich cerbyd.
Gan nad yw'r ddisg wreiddiol yn ddilys mwyach, dylech ei dychwelyd i'r swyddfa DVLA leol a roddodd y ddisg ddyblyg i chi. Cadwch y ddisg treth ddyblyg ar y cerbyd.
Dywedwch wrth yr heddlu os yw eich disg treth wedi’i dwyn.