Os byddwch chi dramor pan fydd eich disg treth yn dod i ben, mae modd i chi drethu ar-lein, dros y ffôn, trethu ymlaen llaw neu ofyn i rywun drethu’r cerbyd ar eich rhan. Gallwch drefnu i’r ddisg treth gael ei hanfon i gyfeiriad dramor.
Defnyddiwch y cyfeirnod ar eich ffurflen atgoffa V11 neu'ch Tystysgrif Cofrestru i adnewyddu eich trwydded o’r 15fed dydd yn y mis y daw eich disg treth i ben. Dim ond i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen atgoffa V11 neu’r Dystysgrif Cofrestru y gellir anfon y disg treth.
Gallwch adnewyddu’ch treth hyd at ddau fis calendr ymlaen llaw yn bersonol neu drwy’r post yn un o ganghennau Swyddfa Post® sy’n delio gyda cheisiadau ymlaen llaw neu mewn swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol.
Dylech fynd â’r canlynol gyda chi neu eu hanfon:
Newid enw a/neu gyfeiriad
Ysgrifennwch y manylion newydd neu unrhyw gywiriadau yn adran chwech eich Tystysgrif Cofrestru.
Os nad oes gennych Dystysgrif Cofrestru
Os mai chi yw'r ceidwad cofrestredig, gallwch lenwi ffurflen V62 ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C)’ a rhaid anfon £25 gyda’r ffurflen (ffi am Dystysgrif Cofrestru ddyblyg). Dylech eu cynnwys gyda’ch cais am dreth. Dim ond yn eich swyddfa DVLA leol agosaf y gallwch wneud cais.
Anfon disg treth i gyfeiriad dramor
Darparwch y cyfeiriad tramor mewn llythyr esboniadol a'i gynnwys gyda’ch cais am dreth. Rhaid rhoi eich cyfeiriad ym Mhrydain Fawr ar y ffurflen V10 'Cais am drwydded cerbyd’.
Ffurflenni cais V10 a V62
Fe allwch lwytho ffurflenni V10 neu V62 oddi ar y we neu eu casglu o unrhyw gangen o Swyddfa'r Post® neu swyddfa DVLA leol.
Gofynnwch i ffrind neu berthynas drethu’ch cerbyd gan ddefnyddio’r ffurflen atgoffa V11 neu V10 ‘Cais am drwydded cerbyd’ gyda’ch Tystysgrif Cofrestru. Gallant roi’r disg treth ar eich cerbyd neu ei phostio atoch.
Pan fyddwch yn dychwelyd o dramor, rhaid i'r ddisg treth fod gennych er mwyn ichi allu gyrru'ch cerbyd adref neu fe fyddwch yn cyflawni trosedd. Does dim consesiynau.
Os yw’ch cerbyd yn cael ei gadw oddi ar y ffordd yn y DU tra'ch bod chi dramor, a chithau ddim yn adnewyddu'ch treth, rhaid i chi ddweud wrth DVLA drwy wneud datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol). Gallwch wneud hyn hyd at ddau fis cyn i’r ddisg treth neu’r HOS ddod i ben.