Mae holl gyfraddau’r dreth cerbyd a ddangosir yn berthnasol i ddisgiau treth a geir ar ôl 13 Mawrth 2008. Gallwch gyfrifo cost y dreth cerbyd ar gyfer eich car, beic modur, lori, bws a phob math arall o gerbydau.
Dyma'r dosbarthiadau treth:
Mae’r dosbarthiadau treth yn cynnwys bysus, bysus llygredd is, cludiant cyffredinol, cludiant cyffredinol llygredd is, cerbydau cludo-i’r-garej a HGV preifat.
Mae’r dosbarthiadau treth yn cynnwys cerbydau undarn, cerbydau undarn llygredd is, treth ôl-gerbyd, treth ôl-gerbyd llygredd is, cerbydau cymalog gydag uned tynnu 2 echel, cerbydau cymalog gydag uned tynnu 2 echel llygredd is, cerbydau cymalog gydag uned tynnu 3 echel a cherbydau cymalog gydag uned tynnu 3 echel llygredd is.
Mae’r daflen 'Cyfraddau treth cerbyd' (V149) yn dangos cost treth cerbyd ar gyfer: cerbydau arbennig (nwyddau ar gyfer arddangos, cludo ar gyfer arddangos, wagenni gwaith, peiriannau cloddio, cerbydau rowlio ffordd, craeniau/pympiau symudol), cerbydau ynysoedd bach, treth ôl-gerbyd arbennig, cerbydau o fathau arbennig, cerbydau o fathau arbennig llygredd is, trafnidiaeth gyfun a thrafnidiaeth gyfun llygredd is.
Fe allwch chi ledaenu cost y dreth cerbyd drwy brynu stampiau cynilo Swyddfa'r Post® am £5.00 yr un. Mae’r rhain yn cael eu casglu ar gerdyn casglu stampiau cynilo Swyddfa’r Post® a gallwch eu defnyddio i dalu'ch treth cerbyd yn llawn neu'n rhannol. Dim ond mewn cangen Swyddfa'r Post® sy’n rhoi disgiau treth y gallwch ddefnyddio’r stampiau hyn.