Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Trethu’ch cerbyd yn y dosbarth treth anabl

Os ydych yn trethu yn y dosbarth treth anabl am y tro cyntaf neu'n adnewyddu'ch disg treth anabl ddi-dâl, bydd y dogfennau sydd gennych yn penderfynu a allwch chi drethu'ch cerbyd ar-lein, mewn cangen Swyddfa'r Post® neu swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol.

Eich tystysgrif eithrio

I drethu yn y dosbarth treth anabl, bydd angen tystysgrif eithrio DLA404 arnoch os ydych yn cael Lwfans Byw i'r Anabl neu’r dystysgrif eithrio WPA442 os ydych yn cael yr Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel.

Rhaid i’r dystysgrif eithrio:

  • fod yn ddilys ar y diwrnod y mae’r ddisg treth yn dod i rym
  • gael ei defnyddio i drethu un cerbyd ar y tro yn unig
  • gael ei llenwi gennych chi a’i stampio gan y clerc wrth y cownter bob tro y byddwch yn gwneud cais am ddisg treth ddi-dâl

Os yw wedi dod i ben, yn llawn, wedi'i newid neu os yw eich enw a’ch cyfeiriad wedi newid, bydd angen i chi gael un arall gan yr Asiantaeth a roddodd y dystysgrif cyn y gallwch drethu'r cerbyd.

Sut i drethu yn y dosbarth treth anabl am y tro cyntaf

Defnyddiwch eich tystysgrif eithrio gyda’ch Tystysgrif Cofrestru i drethu'ch cerbyd yn bersonol neu drwy’r post yn un o ganghennau Swyddfa'r Post® sy’n rhoi disgiau treth. Gweler ‘Trethu gyda Thystysgrif Cofrestru’ isod.

Os ydych chi newydd brynu’ch cerbyd a bod gennych Atodiad Ceidwad Newydd, gallwch ddefnyddio hwn gyda'ch tystysgrif eithrio i drethu’n bersonol neu drwy’r post yn eich swyddfa DVLA leol agosaf. Gweler ‘Trethu gydag Atodiad Ceidwad Newydd’ isod.

Sut i adnewyddu'ch disg treth anabl

Os yw eich treth yn dod i ben ddiwedd y mis, gallwch ei hadnewyddu o’r 15fed o’r mis ymlaen.

Os yw eich cerbyd wedi bod heb dreth, oherwydd eich bod newydd ei brynu, y disg treth wedi dod i ben neu os oes datganiad HOS mewn grym, gallwch ei drethu o ddiwrnod cyntaf y mis pan fyddwch yn gwneud cais.

Os ydych am i’r ddisg treth ddechrau ar ddiwrnod cyntaf y mis calendr nesaf, allwch chi ddim trethu eich cerbyd mwy na dau ddiwrnod ymlaen llaw.

Trethu ar-lein neu dros y ffôn

Defnyddiwch y cyfeirnod ar eich Tystysgrif Cofrestru. Bydd eich hawl yn cael ei wirio’n awtomatig.

Treth gyda ffurflen atgoffa

Defnyddiwch y ffurflen atgoffa V11 mewn unrhyw gangen Swyddfa'r Post® sy’n rhoi disgiau treth neu drwy'r post i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen atgoffa.

Dylech fynd â’r canlynol gyda chi neu eu hanfon:

  • ffurflen atgoffa V11 wedi’i llenwi
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn yswiriant dros dro (os yn gymwys) – rhaid iddynt fod yn ddilys ar y dyddiad y daw'r ddisg treth i rym
  • tystysgrif MOT ddilys - os yw'r car dros dair oed (nid oes angen er mwyn trethu cerbydau methedig)
  • tystysgrif eithrio - DLA404 neu WPA442 - does dim mo'i hangen ar gyfer trwyddedu cerbydau arbennig i bobl anabl

Trethu gyda Thystysgrif Cofrestru

Cewch drethu yn un o ganghennau Swyddfa'r Post® sy’n rhoi disgiau treth. Dylech gynnwys eich Tystysgrif Cofrestru a'r ffurflen V10 ‘Cais am Drwydded Cerbyd’ wedi’i llenwi

Trethu gydag Atodiad Ceidwad Newydd

Bydd angen i chi drethu’ch cerbyd yn eich Swyddfa DVLA leol agosaf. Dylech gynnwys ffurflen V62 ‘Ffurflen gais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C)’ a V10 ‘Cais am Drwydded Cerbyd’ wedi’i llenwi.

Dim ond am ddau fis ar ôl i chi brynu’r cerbyd y gellir defnyddio’r Atodiad Ceidwad newydd. Os yw’n hen, bydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Cofrestru yn eich enw chi – ewch i ‘Trethu heb Dystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd’ isod.

Ffurflenni cais V10 a V62

Fe allwch lwytho ffurflenni V10 neu V62 oddi ar y we neu eu casglu o unrhyw un o ganghennau Swyddfa'r Post® neu swyddfa DVLA leol.

Trethu heb Dystysgrif Cofrestru neu Atodiad Ceidwad Newydd

Os mai chi sy’n cael eich enwi fel y ceidwad cofrestredig ar gofnodion DVLA, gallwch drethu’ch cerbyd yn eich swyddfa DVLA leol agosaf.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen V62 ‘Ffurflen gais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd V5C’ ynghyd â ffi o £25 (ffi am Dystysgrif Cofrestru) a chynnwys hwn gyda'ch cais i drethu.

Os nad chi sy’n cael eich enwi fel y ceidwad cofrestredig ar gofnodion DVLA ni allwch drethu’r cerbyd. Bydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Cofrestru yn eich enw chi. I gael y dystysgrif, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62 'Ffurflen gais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd' a'i phostio i DVLA, Abertawe, SA99 1DD. Efallai y bydd angen i chi aros am hyd at bedair wythnos am y dystysgrif newydd. Yn y cyfamser, dylech gadw’ch cerbyd oddi ar y ffordd.

Newid enw, cyfeiriad neu fanylion cerbyd

Bydd y ffordd y byddwch yn rhoi gwybod am y newidiadau yn dibynnu ar a ydych yn trethu gyda ffurflen atgoffa neu hebddi.

Cael ad-daliad ar eich hen ddisg treth

Unwaith i chi gael eich disg treth anabl, fe allwch chi wneud cais i gael ad-daliad am unrhyw fisoedd sy'n weddill ar eich hen ddisg treth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU