Mae tua 19,000 o fodurdai wedi'u cymeradwyo i gynnal profion MOT yn y wlad. Mae'r logo 'tri triongl' glas, y mae'n rhaid i orsafoedd ei arddangos, yn dynodi gorsafoedd prawf cymeradwy.
Dylai garej brawf MOT gael:
bae profi a llecyn arsylwi mewn adeilad sy'n cynnig cysgod rhag y tywydd. Does dim rhaid i'r adeilad, er yn gwrthsefyll y tywydd, fod heb ddrafft. Rhaid gallu amgáu'r adeilad yn llwyr a darparu man gweithio boddhaol. Rhaid i'r cyfleusterau prawf fod yn weddol rhydd rhag halogiad olew, mygdarth egsôst, sun neu lygredd arall o ardaloedd gwaith cyfagos
rhaid gosod offer fel y gellir profi yn effeithiol. Dylid gosod yr offer a'i leoli fel nad yw gweithgareddau eraill yn y garej yn amharu ar gynnal y prawf yn briodol
mynediad hawdd, diogel, di-rwystr, ar ffordd wedi'i fetelio o fynedfa'r safle i fynedfa'r adeilad, fel y gall cerbydau fynd i mewn ac allan o'r safle drwy yrru ymlaen
lle parcio addas oddi ar y ffordd
cyfleusterau archwilio digonol, gan gynnwys mynediad oddi tanodd, ar gyfer unrhyw waith atgyweirio neu wasanaethu
man aros i'r cyhoedd sy'n amlwg, yn gynnes ac o dan do, ymhle gellir gweld yr holl brawf heb unrhyw ymyrraeth (heblaw profi ar y ffordd) (lle eistedd i ddau berson yn ddigon)