Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth fydd y garej yn ei archwilio mewn prawf MOT?

Cydrannau sy'n cael eu profi yn ystod eich prawf MOT:

ar gyfer ceir...

Rhif adnabod cerbyd - rhaid i rif adnabod cerbyd fod wedi'i arddangos yn barhaol ac yn glir ar gerbyd a ddefnyddiwyd gyntaf ar 1 Awst 1980 neu wedi hynny

Plât cofrestru - cyflwr, diogelwch, dilysrwydd a fformat llythrennau/rhifau

Goleuadau - cyflwr, yn gweithio, diogelwch a'r lliw cywir. Bydd y prif oleuadau hefyd yn cael eu profi i weld a yw eu hanel yn gywir

Llywio a hongiad - cyflwr ac yn gweithio'n gywir

Sychwyr a golchwyr - yn gweithio fel bo'r gyrrwr yn gweld y ffordd yn glir

Ffenestr flaen - cyflwr ac yw'r gyrrwr yn gweld y ffordd

Corn - math cywir ac yn gweithio

Gwregysau diogelwch - profir yr holl wregysau diogelwch sydd yn eu lle o ran eu math, cyflwr, diogelwch ac a ydynt yn gweithio. Rhaid i bob gwregys diogelwch gorfodol fod yn ei le

Seddi - seddi blaen yn gadarn yn eu lle. Seddi blaen a chefn yn gallu cael eu sicrhau yn gefnsyth

Y system danwydd - ddim yn gollwng, y cap tanwydd yn cau ac yn selio'n dynn. Bydd angen agor y cap tanwydd. Sicrhewch fod y goriad ar gael

Gollyngiadau o'r egsôst - y cerbyd yn cwrdd â'r gofynion o ran gollyngiadau o'r egsôst. Mae'r rhain yn amrywio yn ôl oedran y cerbyd a'r math o danwydd

Y system egsôst - yn gyflawn, yn ddiogel, ddim yn gollwng yn ddifrifol a'r distewydd yn effeithiol

Strwythur y cerbyd - heb unrhyw erydiad trwm na niwed mewn mannau penodol. Dim ochrau miniog

Drysau - yn agor a chau. Y glicied yn cloi'n ddiogel pan fydd ar gau. Dylid gallu agor drysau ffrynt o'r tu allan ac o'r tu mewn i'r cerbyd. Efallai y bydd angen agor y drysau cefn i gael at eitemau y mae'n rhaid eu profi

Drychau - presenoldeb, cyflwr a diogelwch

Olwynion a theiars - cyflwr, diogelwch, math a maint y teiars, a dyfnder y gafael. Ni chaiff teiars sbâr eu profi

Breciau - cyflwr, yn gweithio a'u perfformiad (prawf effeithlonrwydd). Bydd cerbydau addas yn cael eu profi ar roliwr profi breciau. Bydd cerbydau fel rhai gyda gyriant pedair olwyn parhaol yn cael eu profi naill ai ar ffordd addas gan ddefnyddio dadgyflymydd sydd wedi'i galibro a'i gynnal yn gywir, neu os oes un yn y garej brofi, profwr platiau brêc

ar gyfer beiciau modur...

Goleuadau - cyflwr, yn gweithio, diogelwch, a'r prif oleuadau, goleuadau cefn, cyfeiryddion ac adlewyrchion o'r lliw cywir. Bydd y prif oleuadau hefyd yn cael eu profi i weld a yw eu hanel yn gywir

Llywio a hongiad - cyflwr, diogelwch ac yn gweithio'n gywir gan gynnwys: ffyrch, mowntin, offer rheoli, berynnau, ayb

Corn - yn gweithio'n gywir ac o'r math cywir

Y system egsôst - yn gyflawn, yn ddiogel, o'r math cywir a heb fod yn rhy swnllyd

Cerbyd ochr - yn cynnwys profi: ymlyniad, hongiad, berynnau'r olwynion, aliniad yr olwynion, goleuadau a theiars

Aliniad yr olwynion - aliniad cywir ar gyfer yr olwynion blaen a chefn

Ffrâm - heb graciau, niwed, afluniad nac erydiad sy'n debygol o effeithio ar y llywio neu'r breciau

Olwynion a theiars - cyflwr a diogelwch yr olwynion, cyflwr y teiars, maint a math, a dyfnder y gafael

Breciau - cyflwr, yn gweithio a'u perfformiad (prawf effeithlonrwydd), ac offer rheoli'r breciau

Eitemau cyffredinol - cyflwr a diogelwch y gyrru terfynol, gorffwysfannau traed a'r sedd

Cerbydau sydd wedi'u haddasu gydag offer rheoli llaw

Ni fydd unrhyw offer rheoli ar eich cerbyd fel rheol yn cael eu profi mewn prawf MOT safonol oni bai eu bod yn cael eu defnyddio i reoli'r cerbyd. Dylech sicrhau bod eich offer rheoli llaw yn cael ei gynnal a'i brofi'n rheolaidd gan garej gyfrifol, gwneuthurwr yr offer llaw neu'r arbenigwr addasiadau.

Ffenestri Tywyll

Nid yw ffenestri tywyll yn rhan o'r prawf MOT, ond mae'r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau Gweithredwyr (VOSA) wedi dechrau gwneud archwiliadau ar fin y ffordd i sicrhau bod ffenestri tywyll yn cadw at Reoliadau Cerbydau'r Ffordd (Adeiladwaith a Defnydd). Mae'r rhan yn pennu'r gofynion sylfaenol ar gyfer faint o olau sy'n gorfod mynd drwy'r ffenestr flaen a ffenestri ochr tu blaen y cerbyd. Mae VOSA wedi cynhyrchu taflen wybodaeth am ffenestri tywyll sy'n ateb cwestiynau megis:

  • Pryd mae gwydr yn rhy dywyll?
  • Beth yw fy sefyllfa o ran y gyfraith?
  • Pam nad yw ffenestri tywyll yn rhan o'r prawf MOT?

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU