Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhoi’r cynllun MOT ar gyfrifiadur

Mae'r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) yn defnyddio system gyfrifiadurol i weinyddu’r cynllun MOT. Gall roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am brawf MOT ac am hanes MOT unrhyw gerbyd.

Sut mae gwirio statws MOT cerbyd

Gallwch weld statws MOT unrhyw gerbyd yr ydych chi’n berchen arno, neu gerbyd ail-law os ydych chi'n ystyried prynu un. Bydd angen y rhif cofrestru arnoch, ac un o’r canlynol:

  • y rhif prawf oddi ar y dystysgrif prawf MOT
  • rhif cyfeirnod y ddogfen oddi ar y ddogfen gofrestru (V5C)

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth megis:

  • gwneuthuriad a model y cerbyd
  • lliw'r cerbyd
  • statws MOT
  • y dyddiad pan ddaw’r MOT dilys i ben

Pan fyddwch chi'n gwneud ymholiad, gallwch hefyd weld cofnod milltiroedd y cerbyd adeg y prawf MOT.

Gallwch ffonio gwasanaeth gwirio MOT VOSA ar 0870 330 0 444 (cyfradd genedlaethol) neu edrych ar-lein.

Gweld hanes MOT cerbyd

Mae hanes MOT cerbyd yn rhoi'r manylion llawn i chi am bob prawf a gynhaliwyd ar gerbyd ers i'r system gael ei rhoi ar gyfrifiadur. Gallwch gael gwybod hefyd am unrhyw atgyweiriadau a argymhellwyd ac a oedd yn angenrheidiol ar gyfer y cerbyd, a nodwyd adeg y prawf MOT. Mae’r cofnod milltiroedd hefyd ar gael fel rhan o’r gwasanaeth.

Gallwch gael gwybod am hanes MOT cerbyd drwy ffonio VOSA ar 0906 120 9 941. Ni ddylai galwadau bara mwy na dwy funud ac maent yn costio £1.50 y funud o linell gyffredin BT. Gall galwadau o ffonau symudol a rhwydweithiau eraill amrywio.

Gall gweld hanes MOT cerbyd eich helpu hefyd i benderfynu a ddylech brynu’r cerbyd ai peidio.

Manteision y cynllun MOT

Gwell safonau profi drwy wneud y canlynol:

  • darparu'r wybodaeth gywir, ddiweddaraf ar gyfer y gorsafoedd profi MOT
  • casglu gwell gwybodaeth
  • monitro safonau prawf yn fanylach
  • gwella ansawdd dogfennau MOT

Llai o ladrata a thwyll sy'n ymwneud â thystysgrifau MOT drwy wneud y canlynol:

  • monitro manylach
  • rheoli tystysgrifau'n well
  • lleihau dibyniaeth ar dystysgrifau papur

Gwell gweinyddiaeth drwy wneud y canlynol:

  • rhannu gwybodaeth gyda modurdai mewn dull electronig
  • casglu a diweddaru gwybodaeth yn awtomatig
  • darparu systemau talu ac archebu electronig
  • gwella'r ffordd y caiff cofnodion eu cadw

Diogelu defnyddwyr yn well yng nghyswllt prawf MOT a gwella’u hyder ynddo drwy:

  • sicrhau safonau mwy cyson
  • galluogi'r cyhoedd i weld a yw cerbyd wedi pasio neu fethu prawf MOT

Gwella diogelwch a chanfod twyll yn haws.

Allweddumynediad llywodraeth y DU