Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Eich tystysgrif MOT

Mae'ch tystysgrif MOT yn cadarnhau bod eich cerbyd, adeg y prawf a heb gael ei dynnu oddi wrth ei gilydd, yn bodloni safonau sylfaenol gofynnol y gyfraith o ran yr amgylchedd a diogelwch ar y ffordd. Nid yw hyn yn golygu y bydd y cerbyd yn addas i fod ar y ffordd trwy gydol cyfnod y dystysgrif nac yn golygu na fydd angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd arno.

Cofnod eich prawf MOT

Pan fydd eich cerbyd yn cael ei brofi mewn gorsaf brofi bydd cofnod eich prawf yn cael ei gofnodi ar gronfa ddata ganolog ddiogel. Yna byddwch un ai'n cael tystysgrif MOT (pasio) maint A4 neu’n cael eich hysbysu bod y cerbyd wedi methu'r prawf. Y dystysgrif yw’r dderbynneb ar gyfer eich prawf MOT ac mae’n dangos yr wybodaeth a gedwir ar y gronfa ddata.

Dim ond cyfeirio at gyflwr eitemau sy'n gorfod cael eu profi y mae tystysgrif MOT, a hynny ar adeg y prawf, ac ni ddylid ei hystyried:

  • yn dystiolaeth o gyflwr yr eitemau ar unrhyw adeg arall
  • yn dystiolaeth o gyflwr mecanyddol cyffredinol y cerbyd
  • yn dystiolaeth bod y cerbyd yn cydymffurfio'n llawn â'r holl agweddau ar gyfraith adeiladwaith cerbydau a'r ffordd y'u defnyddir

Bellach, nid yw'r dystysgrif yn dystiolaeth o MOT ac ni ddylid dibynnu arni fel un. Dim ond y cofnod cyfrifiadurol sy'n gallu profi bod gan gerbyd MOT dilys. Byddwch hefyd yn cael Hysbysiad Cynghori ar gyfer unrhyw atgyweiriadau i’r cerbyd a argymhellir adeg y prawf.

Pryd gallwch gael MOT ar eich cerbyd

Gallwch adnewyddu’ch MOT hyd at fis cyn iddo ddod i ben heb effeithio ar y dyddiad blynyddol pan ddaw i ben. Edrychwch ar flaen y dystysgrif pasio er mwyn cael gwybod beth yw'r dyddiad cynharaf pan allwch gael prawf MOT ar eich cerbyd.

Pam bod angen tystysgrif MOT arnoch

Yn gyffredinol, mae hi'n drosedd defnyddio cerbyd o oedran y mae'n rhaid iddo gael prawf ac nad oes ganddo dystysgrif prawf cyfredol ar ffordd gyhoeddus, heblaw am yr adegau canlynol:

  • pan fyddwch yn mynd â'r cerbyd i orsaf brofi ar gyfer prawf MOT a drefnwyd o flaen llaw
  • pan fyddwch yn mynd â'r cerbyd o orsaf brofi ar ôl iddo fethu'r prawf MOT, i rywle lle gellir ei atgyweirio
  • pan fyddwch yn ei gymryd i rywle, ar ôl trefnu hynny o flaen llaw, i rywle lle gellir atgyweirio'r problemau a achosodd i’r cerbyd fethu ei brawf MOT
  • pan fyddwch yn dod â’r cerbyd o’r man lle atgyweiriwyd y problemau.

Hyd yn oed o dan yr amgylchiadau uchod, efallai y cewch eich erlyn p'run bynnag am yrru cerbyd nad yw'n addas i fod ar y ffordd, os nad yw'n cydymffurfio ag amrywiol reoliadau sy'n ymwneud â'i wneuthuriad a'r defnydd a wneir ohono. Efallai na fydd yswiriant eich car yn ddilys chwaith.

Gall yr heddlu ofyn am gael gweld tystysgrif MOT ar gyfer cerbyd sydd angen un. Mae ganddynt fodd o edrych ar gofnodion cyfrifiadurol o ganlyniadau profion MOT hefyd, a gallant weld a yw’r dystysgrif MOT ar gyfer eich cerbyd wedi dod i ben.

Eich cyfrifoldeb chi fel perchennog y cerbyd yw sicrhau bod y prawf MOT dyledus yn cael ei gynnal mewn pryd. Mae sticer ar flaen y dystysgrif y gallwch ei dynnu i ffwrdd a’i roi mewn man a fydd yn eich atgoffa o'r dyddiad pan ddaw'r MOT i ben. Gall hwn fod yn rhywle fel y fisor haul neu gefn y daliwr disg treth sy’n wynebu tuag i mewn yn y cerbyd.

Y gosb am yrru cerbyd ar y ffordd gyda thystysgrif MOT sydd wedi dod i ben yw hysbysiad cosb benodedig gan yr heddlu, sef £60 ar hyn o bryd, neu ddirwy gan y llys hyd at uchafswm o £1,000.

Trethu eich cerbyd

Bydd angen i chi fynd â'ch tystysgrif gyda chi wrth wneud cais am ddisg treth newydd yn un o ganghennau Swyddfa’r Post®. Ni fydd angen i chi wneud hyn os nad yw'n ofynnol i’ch cerbyd gael prawf MOT oherwydd ei oed neu ei fath. Gallwch drethu eich cerbyd ar-lein hefyd.

Gwneud yn siŵr bod tystysgrif MOT yn un go iawn

Os ydych chi'n amau nad yw'r dystysgrif a gawsoch yn un go iawn, cysylltwch â VOSA ar 0300 123 9 000. Bydd pris y galwadau ar y gyfradd genedlaethol.

Cael tystysgrifau MOT yn lle rhai sydd wedi'u difrodi neu wedi mynd ar goll

Os ydych chi wedi colli'ch tystysgrif neu iddi gael ei difrodi, gallwch gael copi gan unrhyw orsaf brofi MOT.

Bydd angen i chi ddangos marc cofrestru’r cerbyd ac un ai’r rhif prawf MOT gwreiddiol, neu rif cyfeirnod y ddogfen – gellir dod o hyd i hwn ar y dystysgrif cofrestru (V5C).

Uchafswm y ffi i gael tystysgrif arall ar gyfer car yw £10.

Allweddumynediad llywodraeth y DU