Ni chaiff offer rheoli sydd wedi'i addasu ei archwilio fel rhan o'r prawf MOT safonol, felly mae'n hanfodol cynnal a chadw ac archwilio'ch offer rheoli yn rheolaidd. Ewch â'ch cerbyd i garej ddibynadwy, at wneuthurwr yr offer rheoli neu at arbenigwr addasiadau er mwyn archwilio'r addasiadau pan gaiff y cerbyd wasanaeth.
Ceir rhestr o arbenigwyr addasiadau ac offer rheoli llaw gan y Gwasanaeth Cyngor am Fudoledd a Gwybodaeth am Gerbydau (MAVIS) ond sylwch os gwelwch yn dda nad yw'r ffaith fod rhywun ar y rhestr yn golygu bod yr Adran Drafnidiaeth yn eu cymeradwyo.
Os yw'ch cerbyd wedi'i addasu'n sylweddol, efallai y bydd angen prawf Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA) arno. Fodd bynnag, mae pob moped, beic modur a beic modur 3-4 olwyn sydd wedi'i addasu neu ei adeiladu ar gyfer pobl anabl wedi'i eithrio rhag gorfod cael cymeradwyaeth math, felly nid oes angen ei brofi.
Yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) sy'n cynnal y prawf SVA. Os oes gennych chi unrhyw amheuon, dylech gysylltu â MAVIS am gyngor neu â'ch gorsaf brawf SVA leol.