Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ydych chi'n hapus gyda'ch MOT?

Os nad ydych chi'n fodlon â'r ffordd y cafodd eich prawf ei gynnal, rhowch wybod i'r swyddfa Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) leol.

Mae hyn yn galluogi VOSA i sicrhau bod gorsafoedd prawf MOT yn darparu gwasanaeth da. Cysylltwch â rheolwr ardal VOSA yn eich swyddfa leol. Dangosir y cyfeiriad ar y poster ffioedd ac apeliadau yn eich gorsaf brawf MOT neu fe allwch chi ffonio ein llinell ymholiadau MOT ar 0845 600 5977 (cyfradd genedlaethol). Am bob rhif cyswllt a chyfeiriad VOSA, ewch i’w gwefan corfforaethol:

Beth os ydych chi'n anghytuno â chanlyniad MOT?

Os ydych chi'n anghytuno â chanlyniad prawf, trafodwch hynny â'r orsaf brawf yn gyntaf os yn bosibl, a pheidiwch â gadael i neb atgyweirio'ch cerbyd.

Beth os ydw i'n amau ei fod wedi methu'n annheg?

Rhaid i chi gwblhau ffurflen apelio (VT17) sydd ar gael o unrhyw orsaf brawf MOT neu drwy ffonio'r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA), ar y llinell ymholiadau MOT - 0845 600 5977. Bydd angen dychwelyd y ffurflen wedi'i llenwi i VOSA o fewn 14 diwrnod i'r prawf ynghyd â ffi prawf llawn. Bydd VOSA wedyn yn cynnig apwyntiad o fewn 5 diwrnod gwaith i ail-brofi'ch cerbyd. Os bydd eich apêl yn llwyddo ad-delir rhan o’r ffi neu ffi'r prawf yn llawn. Peidiwch ag atgyweirio eich cerbyd cyn i VOSA ystyried eich apêl, gan y gallai unrhyw newid i'ch cerbyd effeithio ar ganlyniad yr apêl.

Oes modd i mi drwsio'r cerbyd fy hun?

Ar ôl iddynt brofi'r cerbyd, bydd VOSA yn rhoi adroddiad archwilio i chi yn rhestru unrhyw nam ar y cerbyd ac yn nodi'r eitemau y dylech gael gwybod amdanynt. Gall unrhyw un atgyweirio'r cerbyd, ond bydd yr holl waith cywiro yn cael ei asesu (gan ddefnyddio'r meini prawf yn y llawlyfr i archwiliadau MOT) cyn i dystysgrif MOT gael ei rhoi.

Beth os ydw i'n amau ei fod wedi pasio'n annheg?

Mae'r achosion hyn fel rheol yn ymwneud â cherbydau sydd newydd gael eu prynu a dylech roi gwybod i VOSA cyn gynted â phosibl. Bydd VOSA wedyn yn cynnig apwyntiad o fewn 5 diwrnod gwaith i ail-brofi'ch cerbyd, heb unrhyw dâl, ar yr amod:

  • nad oes mwy na 28 diwrnod wedi pasio ers y prawf MOT
  • nad oes mwy na thri mis wedi pasio ers y prawf MOT am broblem sy'n ymwneud â rhydu neu gyrydu

Pa gamau y gallaf eu cymryd yn erbyn y garej?

Ni all VOSA wneud cais am iawndal ar eich rhan - fodd bynnag, fe allwch chi gymryd camau ar y cyd â'ch adran safonau masnach leol, dwyn achos eich hun neu roi gwybod i'r heddlu am y mater.

VOSA fydd yn penderfynu a fyddant yn cymryd camau pellach yn erbyn y garej a brofodd eich cerbyd, ac ni ddylai hynny gael dylanwad ar unrhyw achos y byddwch chi'n penderfynu ei ddwyn.

Cysylltu â VOSA

Dangosir cyfeiriad y swyddfa VOSA leol yn y canolfannau prawf MOT neu fe ellir ei gael drwy'n llinell ymholiadau cyffredinol ar 0845 600 5977 (cyfradd leol) neu rif cenedlaethol VOSA ar 0870 606 0440 (cyfradd genedlaethol). Dilynwch y ddolen a nodwyd uchod i gael rhagor o wybodaeth am sut i gysylltu â VOSA.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU