Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gyrru heb yswiriant

Mae'n drosedd gyrru cerbyd ar ffordd neu mewn man cyhoeddus heb yswiriant yn erbyn risg trydydd parti. Rhaid i chi gael yswiriant i ddefnyddio cerbyd penodol, yn hytrach na bod y cerbyd yn cael ei yswirio i'w ddefnyddio gan bobl benodol.

Amcangyfrifir bod oddeutu 2m o gerbydau yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae hyn yn seiliedig ar gymhariaeth rhwng y gofrestr cerbydau, a gedwir gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), a'r Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau (MID).

Y gost i chi

Mae gyrwyr heb yswiriant yn rhoi baich ariannol sylweddol ar fodurwyr eraill, - oddeutu £380m bob blwyddyn neu oddeutu £30 o gost pob premiwm yswiriant. Mae'r difrod a wneir yn sgil damweiniau traffig ar y ffordd yn arwain at nifer fawr o hawliadau i'w setlo gan y Ganolfan Yswirwyr Cerbydau (MIB).

Ar ben hynny, mae gyrru heb yswiriant yn rhoi costau eraill ar gymdeithas. Yn ôl gwaith ymchwil ac arolygon, mae gyrwyr heb yswiriant yn fwy tebygol o fod yn gysylltiedig â damweiniau traffig ar y ffordd, o beidio â chydymffurfio â gofynion eraill o ran traffig ar y ffordd ac, o bosib, o fod yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol arall.

Iawndal

Mae'r cytundeb gyrwyr heb yswiriant rhwng y Llywodraeth a'r Ganolfan Yswirwyr Cerbydau yn sicrhau nad yw'r rhai di-euog sydd wedi dioddef yn sgîl gyrwyr heb yswiriant yn mynd heb iawndal. Mae'r cytundeb yn darparu trefniadau i'r Ganolfan Yswirwyr Cerbydau dalu iawndal i'r rheini sy'n dioddef anaf personol neu ddifrod i'w heiddo o ganlyniad i ddamwain fodurol.

Mewn achosion lle na fu modd olrhain gyrwyr, dim ond ar gyfer difrod i eiddo lle mae'r cerbyd dan sylw wedi'i nodi y gellir hawlio iawndal.

Cydymffurfio a gorfodi

Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi pecyn mesurau i fynd i'r afael â'r oddeutu 2m o fodurwyr sydd ar ein ffyrdd yn gyrru heb yswiriant. Daeth y mesurau yn dilyn argymhellion adolygiad yr Athro David Greenaway o yswiriant cerbydau modur yn y DU

Mae trafodaethau rhwng yr Adran Drafnidiaeth, yr heddlu a'r diwydiant yswiriant yn mynd rhagddynt er mwyn sefydlu'r ffordd fwyaf effeithiol o oresgyn y drwg a wneir yn sgil gyrru heb yswiriant. Drwy ddarpariaethau Deddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005, gall yr heddlu ddefnyddio'r Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau Modur ar y cyd â'u hoffer Darllen Platiau Rhif yn Awtomatig. O ganlyniad, mae'r heddlu yn dal oddeutu 1500 o gerbydau heb yswiriant bob wythnos erbyn hyn.

Bydd y cynllun Gorfodi Yswiriant Di-dor yn darparu cosb benodedig newydd ar gyfer pobl sy'n anwybyddu llythyrau atgoffa swyddogol bod eu hyswiriant wedi dod i ben. Bydd hyn yn berthnasol i gerbydau na chaiff eu datgan eu bod oddi ar y ffordd drwy'r Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol (HOS) ac nad ydynt wedi'u hyswirio. Os bydd troseddwyr yn parhau i droseddu, mae'n fwy tebygol y cymerir eu cerbyd a'i ddinistrio. Pan na chaiff cerbyd modur ei ddefnyddio ar ffordd neu mewn man cyhoeddus arall, yna nid yw'n rhaid prynu yswiriant ar gyfer risg 'ar y ffordd' ar yr amod bod datganiad HOS wedi'i wneud. Disgwylir i'r cynllun hwn ddod i rym yn ystod 2009.

Cosbau

Adlewyrchir difrifoldeb y trosedd yn lefel y ddirwy eithaf, £5,000, ac wrth ardystio trwydded yrru'r troseddwr yn awtomatig gyda phwyntiau cosb yn amrywio o 6 i 8 pwynt. Gall y llysoedd orchymyn bod y troseddwr yn cael ei wahardd yn syth. Mae gan yr heddlu hefyd bwerau helaeth i atal cerbydau ac i archwilio tystysgrifau ac mae hyn yn gallu arwain at oddeutu 300,000 o euogfarnau am yrru heb yswiriant bob blwyddyn.

Cosbir gyrru heb yswiriant gan ddefnyddio'r system cosb benodedig. Gyda chosb benodedig o £200 a chwe phwynt cosb, mae modd gorfodi'n fwy llym o ran y trosedd hwn. Mae'r posibilrwydd o roi cosb benodedig yn rhoi dewis arall i'r heddlu wrth iddynt ddelio â'r trosedd dan sylw, ond nid yw'n atal yr heddlu rhag erlyn mewn achosion priodol pan fyddant yn meddwl mai dyna'r camau gweithredu gorau.

Mae gan yr heddlu'r grym i gymryd cerbydau a yrrir heb yswiriant ac mewn achosion priodol eu dinistrio. Dim ond drwy dalu'r ffioedd a bennwyd a chyflwyno dogfen yswiriant ddilys y rhyddheir unrhyw gerbyd a gymerir yn unol â'r pwerau hyn. Dim ond i geidwad cofrestredig y cerbyd neu, os nad oes ceidwad cofrestredig, i'r person y tybir ei fod yn berchennog y rhyddheir y cerbyd. Gall yr heddlu waredu cerbydau nas hawlir o fewn amser penodedig.

Yn Neddf Diogelwch ar y Ffyrdd 2006, ceir darpariaethau ar gyfer dedfrydau mwy llym i rai sy'n lladd neu rai sydd mewn damweiniau wrth yrru heb yswiriant.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU