Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pryd i wneud datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol)

Rhaid trethu pob cerbyd a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig sy'n cael ei ddefnyddio neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Os nad yw'ch car wedi'i drethu, mae'n rhaid cael HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol) ar ei gyfer a'i gadw oddi ar y ffordd. Os nad oes HOS mewn grym ar gyfer y cerbyd, mae'n bosib y gellid clampio olwynion y cerbyd a'i gludo ymaith.

Pryd y mae angen HOS

Mae HOS yn berthnasol i bob dosbarth treth, gan gynnwys cerbydau hanesyddol a cherbydau i bobl anabl.

Bydd angen i chi wneud datganiad HOS:

  • os yw’ch cerbyd yn cael ei gadw oddi ar y ffordd oherwydd ei fod yn cael ei drwsio neu ei fod wedi methu’r prawf MOT, neu am nad yw'n cael ei ddefnyddio
  • os nad ydych yn adnewyddu'ch treth a'ch bod yn cadw'r cerbyd oddi ar y ffordd
  • os ydych yn gwneud cais am ad-daliad treth cerbyd ac yn cadw’r cerbyd oddi ar y ffordd
  • bob 12 mis os ydych yn parhau i gadw’ch cerbyd oddi ar y ffordd
  • ymlaen llaw os yw’ch cerbyd yn mynd i gael ei gadw oddi ar y ffordd ym Mhrydain Fawr pan fyddwch chi dramor

Pryd i wneud cais

Gwnewch ddatganiad HOS cyn gynted ag y bydd eich cerbyd yn cael ei dynnu oddi ar y ffordd. Cewch wneud datganiad HOS o’r pumed diwrnod yn y mis y daw’ch disg treth gyfredol neu’r HOS i ben. Ni ellir ôl-ddyddio HOS.

Pan nad oes angen HOS

Nid oes angen HOS:

  • os ydych yn gwerthu’r cerbyd
  • os ydych yn sgrapio’r cerbyd neu’n ei roi i ddeliwr sgrap
  • os yw’ch cwmni yswiriant wedi penderfynu bod y cerbyd y tu hwnt i'w adfer
  • os ydych yn mynd â’r cerbyd dramor am byth
  • os byddwch yn gwneud cais am ad-daliad treth cerbyd a ddim yn cadw’r cerbyd
  • os cafodd eich cerbyd ei drethu ddiwethaf cyn 31 Ionawr 1998

Edrych pryd y mae eich HOS yn dod i ben

Gallwch holi am y dyddiad y bydd eich HOS yn dod i ben drwy ddefnyddio'r gwasanaeth 'ymholiad am gerbyd' ar-lein. Nodwch rif cofrestru a gwneuthuriad eich cerbyd.

Gyrru'r cerbyd i gael prawf MOT pan fydd HOS mewn grym

Gallwch yrru'ch cerbyd i orsaf brofi MOT ac oddi yno ar gyfer prawf sydd wedi ei drefnu ymlaen llaw, ar yr amod ei fod wedi ei yswirio’n ddigonol.

Y ceidwad cofrestredig wedi marw

Os yw’r cerbyd yn cael ei dynnu oddi ar y ffordd, gall y sawl sy’n gyfrifol am faterion yr ymadawedig wneud datganiad HOS.

Y cerbyd wedi bod mewn damwain - beth y mae'r cwmni yswiriant yn bwriadu'i wneud?

Os yw’n debygol y bydd y cerbyd yn cael ei drwsio, efallai y byddwch am adael y ddisg treth arno. Os yw'n debygol na fydd yn bosib adfer y cerbyd, dylech drefnu â'r cwmni yswiriant ble caiff y cerbyd ei gadw.

Os caiff y cerbyd ei gadw ar y ffordd gyhoeddus, bydd yn rhaid parhau i drethu'r cerbyd ac arddangos disg treth ddilys arno.

Er mwyn clirio'ch hun rhag unrhyw atebolrwydd ar gyfer y cerbyd, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen V5C/3.

Defnyddio neu gadw cerbyd ar ffordd gyhoeddus

Ffordd a gynhelir gan arian cyhoeddus yw ffordd gyhoeddus, gan gynnwys y lleiniau glas a’r tir sy’n ffinio â’r ffordd. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol os oes gennych unrhyw amheuaeth am ardal lle rydych am barcio’ch cerbyd.

Newid cyfeiriad

Does dim angen cyfeiriad ar yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau at ddibenion HOS. Ond, gwnewch yn siŵr bod eich tystysgrif cofrestru (V5C) yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf i sicrhau y cewch ffurflen atgoffa pan fo'ch HOS ar fin dod i ben.

Cerbyd dramor dros dro

Allwch chi ddim gwneud datganiad HOS os yw’ch cerbyd y tu allan i Brydain Fawr. Bydd angen i’r cerbyd arddangos disg treth ddilys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU