Os nad yw’ch cerbyd yn cael ei drethu ac yn cael ei gadw oddi ar y ffordd, rhaid i chi wneud datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol). Gallwch wneud hyn ar-lein, dros y ffôn, yn un o ganghennau Swyddfa'r Post® neu pan fyddwch yn gwneud cais am ad-daliad ar eich treth cerbyd.
Dim ond y ceidwad cofrestredig all wneud HOS i roi gwybod i DVLA nad yw’r cerbyd yn cael ei ddefnyddio neu ei gadw ar y ffordd.
Gwnewch ddatganiad HOS cyn gynted ag y bydd eich cerbyd yn cael ei dynnu oddi ar y ffordd.
Os yw eich treth neu HOS yn dod i ben ddiwedd y mis, gwnewch HOS o’r 15fed o’r mis ymlaen.
Ni ellir ôl-ddyddio datganiadau HOS.
Gallwch wneud datganiad HOS:
Ar-lein
Defnyddiwch y cyfeirnod a ddangosir ar eich Tystysgrif Cofrestru neu'r ffurflen atgoffa V11.
Dros y ffôn
Ffoniwch 0870 850 444 - defnyddiwch y cyfeirnod a ddangosir ar eich Tystysgrif Cofrestru neu'r ffurflen atgoffa V11.
Mewn cangen Swyddfa'r Post® gyda ffurflen atgoffa V11
Defnyddiwch y ffurflen atgoffa V11 mewn unrhyw gangen Swyddfa'r Post® sy’n rhoi disgiau treth neu drwy'r post i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen atgoffa.
Drwy’r post heb ffurflen atgoffa
Defnyddiwch ffurflen V890 'Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol' (HOS) wedi'i llenwi a'i hanfon at DVLA, Abertawe SA99 1AR.
Wrth wneud cais am ad-daliad
Os oes gan eich disg treth fisoedd cyflawn ar ôl, gallwch wneud datganiad HOS ar yr un adeg â gwneud cais am ad-daliad ar y dreth cerbyd.
Ymlaen llaw - HOS neu dreth cerbyd yn dod i ben pan fyddwch chi dramor
Gallwch wneud datganiad HOS hyd at 2 fis calendr ymlaen llaw. Rhaid i’r cerbyd aros ym Mhrydain Fawr. Llenwch ffurflen V890 'Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol' (HOS) ynghyd â llythyr yn esbonio pam eich bod yn gwneud cais cymaint ymlaen llaw a'u hanfon at DVLA, Abertawe SA99 1AR.
Neu gallwch wneud datganiad HOS ar-lein neu dros y ffôn ar yr amser arferol neu gael rhywun arall i wneud datganiad HOS tra'ch bod dramor.
Os nad yw'r cerbyd eisoes wedi’i gofrestru yn eich enw, rhaid i chi gyflwyno’r Tystysgrif Cofrestru (eich manylion wedi'u llenwi yn adran 6) gyda'ch datganiad HOS. Os nad yw’r dystysgrif gennych, bydd rhaid i chi lenwi V62 ‘Ffurflen gais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C)’.
Fe allwch lwytho ffurflenni V890 neu V62 oddi ar y we neu eu casglu o gangen Swyddfa'r Post® neu swyddfa DVLA leol.
Dylai DVLA anfon llythyr atoch yn cadarnhau’r HOS. Os na fyddwch wedi derbyn y llythyr ar ôl pedair wythnos, dylech gysylltu â llinell ymholiadau cwsmeriaid DVLA.
Ewch â’r ffurflen atgoffa V85/1 i swyddfa DVLA leol neu ei hanfon yno.
Checklist to help you avoid buying a stolen vehicle