Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth os na fyddwch yn trethu’ch cerbyd neu’n gwneud datganiad HOS

Fel ceidwad cofrestredig y cerbyd, chi sy’n gyfrifol am drethu’r cerbyd neu lenwi datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol) os yw’r cerbyd i’w gadw oddi ar y ffordd.  Os na wnewch chi, fe allech gael cosb awtomatig, rhagor o ddirwyon neu gallai eich cerbyd gael ei glampio, ei gludo ymaith neu ei falu hyd yn oed.

Does dim dianc

Does dim rhaid i’ch cerbyd gael ei weld ar y ffordd cyn y byddwch wedi cyflawni trosedd. Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn archwilio ei chofnodion bob mis i ganfod cerbydau heb dreth. Mae gan DVLA yr awdurdod i gymryd camau gorfodi yn eich erbyn gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd ganddynt ar eu cofnodion.

Yn ogystal â hyn, mae DVLA yn gweithio mewn partneriaeth â NCP Services Cyf, yr heddlu ac awdurdodau lleol i weithredu cynlluniau clampio olwynion. Gan ddefnyddio darllenwyr platiau rhif awtomatig (ANPR), maent yn canfod, clampio a chludo ymaith unrhyw gerbydau heb dreth ar y ffordd gyhoeddus.

Gall aelodau’r cyhoedd hefyd roi gwybod am gerbyd heb dreth ar-lein neu drwy ffonio’r llinell ffôn genedlaethol gyflym ar gyfer rhoi gwybod am gerbydau heb dreth.

Beth fydd yn digwydd?

Os na fyddwch yn trethu’ch cerbyd neu’n gwneud datganiad HOS, gallai eich cerbyd gael ei stopio gan yr heddlu.

Byddwch yn cael cost awtomatig o £80, yn ogystal â thalu am ddisg treth newydd ac unrhyw ôl-ddyledion ar eich treth cerbyd.

Gallech hefyd gael Dyfarniad yn eich erbyn yn y Llys Sirol, a chael dirwy am o leiaf £1,000.

Y gosb uchaf am wneud datganiad ffug drwy wneud datganiad HOS pan yw’r cerbyd mewn gwirionedd yn cael ei ddefnyddio neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus yw £5,000 a dwy flynedd o garchar.

Gallai eich cerbyd gael ei glampio gan un o bartneriaid clampio olwynion DVLA. Bydd rhaid i chi dalu am ryddhau’ch cerbyd a dangos disg treth ddilys neu ernes os nad oes disg ar gael. Os na fyddwch yn talu, bydd eich cerbyd yn cael ei roi dan glo mewn ffald, ac fe godir tâl storio. Os na fyddwch yn talu’r ffioedd rhyddhau neu storio, gallai eich cerbyd gael ei falu neu ei werthu.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU