Os byddwch chi'n cadw neu'n defnyddio cerbyd heb dreth ar ffordd gyhoeddus, mae perygl y caiff eich cerbyd ei glampio neu ei roi dan glo mewn ffald gan gwmni clampio olwynion yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rhaid talu'n ddrud i ryddhau'ch cerbyd. Bydd cerbydau sydd heb eu hawlio'n cael eu cludo ymaith a'u cadw dan glo mewn ffald, a gallai gael ei falu ar ôl saith niwrnod.
Mae DVLA yn gweithio mewn partneriaeth â NCP Services Cyf sy’n rhedeg y cynllun clampio olwynion a hefyd gyda nifer o awdurdodau lleol a heddluoedd sy’n gweithredu cynlluniau clampio olwynion lleol yn eu hardaloedd.
Mae gan faniau clampio sy'n patrolio'r strydoedd dechnoleg Darllen Platiau Rhif yn Awtomatig (ANPR). Mae camerâu ar y to yn darllen platiau rhif y cerbydau sydd wedi’u parcio ar ochr y ffordd. Mae’r platiau rhif yn cael eu gwirio yn erbyn rhestr o gerbydau heb dreth ac mae rhifau'r rhai a ganfyddir yn cael eu cadarnhau yn erbyn cofrestr cerbydau’r DVLA. Wedyn mae’r cerbyd heb dreth yn cael ei glampio neu ei gludo ymaith a'i roi dan glo mewn ffald o fewn 24 awr (neu yn syth mewn rhai achosion).
I ryddhau’ch cerbyd bydd angen:
Os na allwch ddarparu disg treth, bydd angen i chi dalu ernes (blaendal) yn ei lle. Mae hwn yn £120 ar gyfer car neu feic modur a hyd at £600 ar gyfer cerbydau eraill.
Byddwch yn cael yr ernes yn ôl pan fyddwch yn trethu’ch cerbyd ac yn darparu disg treth ddilys. Os na fyddwch yn darparu disg treth o fewn pythefnos, byddwch yn colli’r ernes a gallai eich cerbyd gael ei glampio dro ar ôl tro.
I ryddhau’ch cerbyd, bydd angen i chi dalu ffi o £160 ac unrhyw daliadau storio o £15 y diwrnod yn ogystal â chyflwyno disg treth ddilys neu ernes.
Os mai chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd, bydd DVLA yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu bod eich cerbyd wedi ei roi dan glo mewn ffald ac y byddant yn cael gwared arno oni fydd yr holl ffioedd yn cael eu talu.
Gallech hefyd gael eich erlyn gyda dirwyon hyd at £1,000 yn ogystal â thalu unrhyw ôl-ddyledion ar eich treth cerbyd a chostau.
Bydd unrhyw gerbydau na fyddant wedi eu hawlio yn cael eu malu ar ôl 7 diwrnod. Bydd cerbydau sydd â gwerth economaidd yn cael eu dinistrio ar ôl 14 diwrnod. Bydd unrhyw gerbyd sydd â gwerth sylweddol yn cael ei ailwerthu mewn ocsiwn.