Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru yn gweithio'n ddygn i ddylanwadu ar agweddau pobl ifanc at ddiogelwch ar y ffordd ac at yrru'n ofalus ar ôl iddynt basio'u prawf gyrru. Gwneir hyn drwy drafod materion pwysig yn ymwneud â diogelwch ar y ffordd yn Rhaglen Diogelwch ar y Ffordd Siwrne Saff yr Asiantaeth.
Ceir chwe modiwl cyflwyno y gellir eu haddasu ar gyfer gwahanol anghenion:
| Modiwl 1 – ysgolion/colegau | Ysgolion Colegau Y lluoedd arfog Colegau amaeth Clybiau ieuenctid |
|---|---|
| Modiwl 2 – troseddwyr ifanc | Timau troseddau ieuenctid Atgyfeirio pobl ifanc |
| Modiwl 3 – carchardai | Carchardai a'r gwasanaeth prawf Unedau ieuenctid (carchardai) |
| Modiwl 4 – beic modur | Ysgolion Colegau Cyrff hyfforddi cymeradwy |
| Modiwl 5 – gallwch chi yrru hefyd | Ysgolion Colegau Canolfannau Mobility |
| Modiwl 6 – clasurol | Clybiau Probus Age concern Sefydliadau'r Merched |
Bwriedir y modiwl hwn ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 19 oed. Un o negeseuon y modiwl yw y dylid mabwysiadu'r agwedd briodol at gyfrifoldebau gyrwyr ar ôl pasio'r prawf gyrru.
Mae'r cyflwyniad hwn yn rhad ac am ddim, ac fe'i rhoddir gan arholwyr gyrru lleol. Mae'n defnyddio trafodaeth grŵp gyda hwylusydd a DVD sy'n dangos fideo o 'Ymgyrch THINK!' yr Adran Drafnidiaeth, profiadau pobl ifanc go iawn a drama ysgytwol i gyfleu negeseuon pwysig am ddiogelwch ar y ffordd.
Mae’n canolbwyntio ar y canlynol:
Mae'r modiwl hwn yn ymhelaethu ar gyflwyniad modiwl 1, ond yn mynd i'r afael hefyd â materion pwysig sy'n ymwneud â diogelwch ar y ffordd ac sy'n berthnasol i'r grŵp hwn. Mae hwn yn fodiwl mwy grymus, a luniwyd gan ystyried oedran y troseddwyr a'u trosedd. Mae'n cynnwys trafodaethau am ganlyniadau cymryd cerbyd heb ganiatâd a gyrru dan oed.
Mae hwn yn gyflwyniad mwy grymus na modiwl 1, ac mae'n ymdrin â chanlyniadau gyrru'n fyrbwyll, y sgiliau sy'n angenrheidiol er mwyn gyrru'n ofalus a'r cyfrifoldeb sydd ynghlwm wrth hynny.
Mae'r modiwl hwn yn cydnabod bod mwy a mwy o bobl ifanc yn troi at feiciau modur a sgwteri fel ffordd cost effeithiol o deithio. Mae'n hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r peryglon gyrru beiciau modur a sgwteri, a sut y mae'n rhaid cyfuno beicio modur ag ymdeimlad o gyfrifoldeb a'r agwedd iawn.
Mae'n canolbwyntio ar ddiffyg profiad gyrwyr ifanc newydd, peryglon cymryd cyffuriau ac yfed alcohol wrth yrru, a sut y defnyddir cyflymder a'r canlyniadau oni ddefnyddir cyflymder yn briodol. Mae hefyd yn cynnwys adran ar gario teithwyr ar y piliwn yn gyfrifol.
Mae'n cynnig cyngor am ymwybyddiaeth o beryglon, cynllunio, rhagweld beth mae defnyddwyr eraill y ffordd yn debygol o'i wneud a phwysigrwydd 'gweld a chael eich gweld'. Mae'n disgrifio sut mae gyrwyr ifanc yn brin o brofiad ac yn llai abl na gyrwyr profiadol i ragweld peryglon posib. Mae'n defnyddio DVD sy'n dangos canlyniadau damweiniau ffyrdd a beth sy'n digwydd pan fydd gyrwyr yn gwneud camgymeriad.

Bwriedir y modiwl hwn ar gyfer gyrwyr sy'n 50 oed neu'n hŷn.
I drefnu cyflwyniad cysylltwch â'r Asiantaeth Safonau Gyrru drwy ffonio 0300 200 1122 (opsiwn 2 yna opsiwn 5) neu drwy anfon e-bost at: