Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ynghylch y Cynllun Siwrne Saff Glasurol

Mae mwy a mwy o yrwyr hŷn, profiadol, yn y Deyrnas Unedig. Mae gwybodaeth a goddefgarwch gyrwyr hŷn yn werthfawr tu hwnt ar y lôn; ond, gan fod mwy a mwy o draffig ar y ffyrdd y dyddiau hyn, ac oherwydd systemau cymhleth ffyrdd modern, mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru yn cydnabod effeithiau anochel heneiddio ar yrru.

Y prif amcan

Yn nhymor y gwanwyn 2003, lansiodd yr Asiantaeth Safonau Gyrru y cynllun Siwrne Saff Glasurol fel rhan o strategaeth diogelwch ar y ffordd y llywodraeth. Bwriad hyn oedd darparu rhaglen o gyflwyniadau yn arbennig ar gyfer gyrwyr dros 50 oed, gan ganolbwyntio'n bennaf ar bobl wedi ymddeol.

Siwrne Saff Glasurol yw'r modiwl olaf o'r chwe modiwl cyflwyniad y gall rhaglen diogelwch ar y ffordd Siwrne Saff eu cynnig i gyrff swyddogol a sefydliadau sydd â diddordeb.

Gwybodaeth am y cyflwyniad

Wedi'i seilio ar gynllun llwyddiannus Siwrne Saff, sy'n hybu gyrru diogel ymhlith gyrwyr newydd, prif amcan y cyflwyniad hwn yw annog diogelwch ar y ffordd drwy dynnu sylw at faterion sy'n berthnasol i yrwyr hŷn, megis:

  • gofynion trwyddedu pan fyddant yn 70 oed
  • safon eu golwg
  • effaith meddyginiaeth
  • mwy o draffig ar y ffyrdd
  • systemau ffordd cymhlethach

Darperir gwybodaeth am newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth ac yn Rheolau'r Ffordd Fawr. Bydd y cyflwyniad hefyd yn darparu awgrymiadau cyffredinol ac yn atgoffa ynghylch arferion gyrru da cyffredinol - rhywbeth sy'n berthnasol i yrwyr o bob oed.

Bydd y cyflwyniad yn rhad ac am ddim ac yn cael ei roi gan un o arholwyr gyrru profiadol yr Asiantaeth Safonau Gyrru. Mae'n para oddeutu awr. Bydd hyn yn cynnwys DVD byr sy'n egluro ac yn rhoi cyngor ar yrru, gan ystyried y ffyrdd a'r traffig y dyddiau hyn.

Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau ac i drafod y materion a godir.

Y nod yw helpu gyrwyr hŷn i barhau i yrru'n fwy diogel er mwyn iddynt allu cadw eu trwydded yrru wrth heneiddio.

Trefnu cyflwyniad

Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru yn awyddus i gael sylw croestoriad eang o'r gymuned sydd dros 50 oed. Os gwyddoch am grŵp neu gymdeithas ar gyfer pobl dros 50 oed, neu os ydych yn aelod o grŵp neu gymdeithas o'r fath ac yr hoffech drefnu cyflwyniad, cysylltwch â'r Asiantaeth Safonau Gyrru drwy anfon e-bost i arrive.alive@dsa.gsi.gov.uk

neu drwy ffonio 0300 200 1122 (opsiwn 2 yna opsiwn 5).

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU