Os bydd rhywun yn cysylltu â chi ynghylch dirwyon neu daliadau, ond nad chi sy'n gyfrifol gan fod rhywun arall yn defnyddio eich rhif cofrestru, mae'n bosibl bod eich cerbyd wedi'i glonio.
Mae clonio'n golygu copïo manylion cerbyd tebyg (heb ei ddwyn) sydd eisoes ar y ffordd. Mae troseddwyr yn dod o hyd i gopi union o'r car maen nhw wedi'i ddwyn, ac yna'n copïo manylion y cerbyd cyfreithlon, gan wneud i'r cerbyd arall ymddangos yn gyfreithlon drwy osod platiau rhif ffug arno.
Os ydych chi'n amau bod eich cerbyd wedi'i glonio, gallai'r pwyntiau canlynol eich helpu i osgoi dioddef o droseddau pellach.
Bydd y DVLA yn ystyried rhoi rhif cofrestru newydd os gwneir cais am hynny, os ydynt yn fodlon ei fod mewn gwirionedd yn achos o glonio cerbyd a'r broblem yn un barhaus. Gall tystiolaeth dderbyniol gynnwys cais am gofrestru a thrwyddedu cerbyd gan rywun arall ar wahân i'r ceidwad cofrestredig.
Mae'r DVLA yn gweithio ar amrywiaeth o fesurau i fynd i'r afael â'r broblem.
Ers 1 Ionawr 2003:
Am y tro cyntaf, mae hyn wedi golygu bod peth rheolaeth dros ddarparu platiau rhif, ond bydd angen cymryd camau pellach er mwyn i'r platiau rhif fod yn fwy diogel a'i gwneud hi'n fwy anodd i droseddwyr glonio cerbydau.
Ymhlith y camau sy'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd mae tagio platiau rhif yn electronig, datblygu platiau na ellir eu dwyn am na fydd modd eu defnyddio unwaith y cânt eu tynnu oddi ar gerbyd, a phlatiau rhif sy'n cynnwys gwybodaeth electronig am y cerbyd.