Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Camau i leihau troseddu'n ymwneud â cherbydau

Un o brif amcanion yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yw lleihau troseddau'n ymwneud â cherbydau. Mae'r DVLA yn cyflawni hyn drwy nifer o gamau gwahanol.

Pwysleisio pwysigrwydd y dystysgrif cofrestru

Mae'r gyfraith yn mynnu bod yn rhaid i unrhyw un sy'n gwerthu cerbyd drosglwyddo rhan berthnasol y ddogfen cofrestru i'r prynwr a dweud wrth y DVLA am y newid. Cyn prynu cerbyd, mae'r DVLA a'r heddlu'n argymell yn gryf y dylai darpar brynwyr:

  •  daro golwg ar y ddogfen gofrestru V5 neu'r dystysgrif V5/C
  •  sicrhau bod y manylion yn cyd-fynd â manylion y cerbyd yn bersonol

Er mwyn trethu cerbyd ail-law gyda ffurflen V10 (neu V85 ar gyfer cerbydau nwyddau trwm) mae'n rhaid dangos adran berthnasol y ddogfen neu'r dystysgrif cofrestru. Felly mae'n hanfodol fod y rhan gywir o'r dystysgrif cofrestru yn cael ei throsglwyddo i'r prynwr pan gaiff cerbyd ei werthu.

 

Archwiliadau adnabod cerbydau (VIC)

Mae'r cynllun VIC, sy'n cael ei weithredu gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA), wedi'i gyflwyno i atal ffugio neu 'ringio' ceir. Mae ffugio yn arfer sy'n golygu honni bod ceir sydd wedi'u dwyn yn geir sydd wedi'u hatgyweirio ar ôl cael eu difrodi mewn damwain.

Ers Ebrill 2003, pan fydd yswiriwr yn rhoi gwybod i'r DVLA am geir anadferadwy yng nghategorïau adfer A, B neu C, mae angen iddynt basio VIC. Bydd y DVLA wedyn yn cyhoeddi tystysgrif cofrestru V5C.

Tystysgrif ddinistrio

Mae'r cyfarwyddyd Diwedd Oes cerbydau yn golygu fod modd rhoi tystysgrif ddinistrio (COD) ar gyfer cerbyd sy'n cael ei anfon i ganolfan drin gymeradwy (ATF). Bydd y COD yn cael ei rhoi i berchennog neu geidwad diwethaf y cerbyd a bydd cyfrifoldeb y ceidwad yn dod i ben drwy ddiweddaru cofnodion y DVLA.

Er mwyn prosesu cerbydau diwedd oes, rhaid i'r ATF fod wedi'i drwyddedu gan Asiantaeth yr Amgylchedd neu'r Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yn yr Alban.

Cofrestru cyflenwyr platiau rhif

Mae’r cynllun cofrestru cyflenwyr platiau rhif (RNPS) wedi cael ei estyn i gynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon o 1 Awst 2008.

Mae'r cynllun yn sicrhau mai dim ond cyflenwyr cofrestredig sy'n gwerthu platiau rhif. Mae’n rhaid i brynwr allu dangos bod ganddo hawl i rif cofrestru penodol ac yn gallu dangos prawf o'i fanylion personol.

Rhaid i gyflenwyr platiau rhif gadw cofnodion o'u gwerthiant, a rhaid i'r rhain fod ar gael i'w harchwilio gan yr heddlu neu awdurdodau lleol.

Cofrestriad di-dor

O dan y system cofrestriad di-dor, mae ceidwad cofrestredig cerbyd yn parhau'n gyfrifol yn ariannol am y cerbyd hyd nes y caiff y DVLA wybod yn ffurfiol ei fod wedi'i drosglwyddo neu ei ddinistrio.


Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl cymryd camau gorfodi o'r cofnod, yn hytrach na dibynnu ar weld y cerbyd ar y ffordd gyhoeddus, ac mae'n annog unigolion i roi gwybod i'r DVLA am unrhyw newidiadau i fanylion y ceidwad.

Gwirio enw a chyfeiriad

Er mwyn gwella cywirdeb mae'r DVLA wedi cyflwyno camau newydd i wirio’r enw a’r cyfeiriad ar gofnod cerbyd. Mae angen tystiolaeth ddogfennol i wirio enw a chyfeiriad gyda ffurflenni V55/4 a V55/5 sy'n cael eu defnyddio'n bennaf i gofrestru cerbydau a fewnforiwyd, cerbydau a ailadeiladwyd a cherbydau a adeiladwyd o git.

Mae camau llymach yn cael eu cymryd i ganfod y gwir gyfeiriad pan gaiff dogfennau cofrestru eu dychwelyd heb gyrraedd y cyfeiriad cywir.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Gwybodaeth ar drosedd lleol

Cael gwybod beth sy’n cael ei wneud ynghylch trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU