Pan fyddwch yn ymddeol, bydd eich incwm fel arfer yn llai na phan oeddech yn gweithio. Er mwyn eich helpu i ymdopi, efallai y cewch rai budd-daliadau a chymorth ariannol ar ben eich Pensiwn gan y Wladwriaeth. Rhoddir rhai budd-daliadau ar sail oed, bydd rhai eraill yn dibynnu ar eich prawf incwm.
Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn mae'n bosib bod gennych hawl i Gredyd Pensiwn – arian ychwanegol ar ben eich incwm. Mae dwy ran i'r pensiwn, yr elfen 'credyd gwarant' a'r elfen 'Credyd Cynilion' (a all fod yn daladwy i chi pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed).
Mae gan blant y mae eu rhieni, eu gofalwyr neu’u gwarcheidwaid yn derbyn elfen credyd gwarant y Credyd Pensiwn hawl i laeth neu brydau ysgol am ddim. Rhaid i adran addysg eich awdurdod lleol ddarparu prydau bwyd am ddim i fyfyrwyr sy'n gymwys ar gais.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer i'ch helpu gyda chostau gwresogi ychwanegol pan fydd y tywydd yn oer iawn. Gwneir y taliadau'n awtomatig – does dim angen i chi hawlio.
Efallai y cewch daliad i helpu gyda biliau tanwydd os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn ac yn byw yn y DU fel arfer yn ystod yr wythnos gymhwyso berthnasol (ceir rhai eithriadau).
Ar gyfer gaeaf 2008/09, bydd taliad ychwanegol o £50 ar gael i aelwydydd sy'n cynnwys rhywun 60-79 oed a £100 i aelwydydd sy'n cynnwys rhywun sy’n 80 oed neu’n hŷn. Telir hwn ochr yn ochr â’r Taliad Tanwydd Gaeaf.
Mae'r Gronfa Gymdeithasol yn darparu taliadau untro a benthyciadau di-log i helpu gyda threuliau mewn rhai sefyllfaoedd.
Benthyciadau di-log yw'r Benthyciadau Argyfwng os oes angen cymorth ariannol arnoch chi tuag at argyfwng neu drychineb.
Mae'n bosib y darperir Benthyciadau Cyllidebu i helpu pobl ar incwm isel i dalu am bethau megis dodrefn, dillad a theithio.
Os oes angen help ariannol arnoch i fyw'n annibynnol yn y gymuned neu i liniaru pwysau eithriadol arnoch chi a'ch teulu, mae'n bosibl y gallech chi gael Grant Gofal yn y Gymuned. Does dim rhaid i chi ei dalu'n ôl.
Taliadau Angladd
Os oes angen help ariannol arnoch i dalu am angladd rydych chi'n ei drefnu, mae'n bosib y gallwch gael Taliad Angladd untro. Mae'n bosibl y bydd rhaid i chi ad-dalu peth ohono neu'r cyfan ohono o ystâd y sawl a fu farw.
Mae'n bosib fod gan unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd Arfog y DU, gan gynnwys gwragedd a gwŷr gweddw a'u dibynyddion, hawl i gymorth gyda phensiynau, iechyd, gwaith a thaliadau eraill.
Os ydych ar eich colled o ran eich pensiwn neu os bydd eich cwmni'n dod yn fethdalwr heb ddigon o gronfeydd yn ei gynllun pensiwn, efallai bod ffordd o gael gafael ar eich pensiwn.