Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Credyd Pensiwn a phrydau ysgol am ddim

Mae gan blant y mae eu rhieni, eu gofalwyr neu’u gwarcheidwaid yn derbyn elfen credyd gwarant y Credyd Pensiwn hawl i laeth neu brydau ysgol am ddim lle cânt eu darparu. Rhaid i adran addysg eich awdurdod lleol ddarparu prydau bwyd am ddim i fyfyrwyr sy'n gymwys ar gais.

Pwy sy’n gymwys?

Gall eich plentyn gael prydau ysgol am ddim os ydych chi neu eich partner yn cael naill ai:

  • Credyd Gwarant Credyd Pensiwn (yr 'elfen credyd gwarant')
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Treth Plant (ond nid Credyd Treth Gwaith) gydag incwm blynyddol y teulu'n llai na £15,575, fel yr aseswyd gan Gyllid a Thollau EM

Prydau ysgol am ddim

Dim ond yng Nghymru a Lloegr y mae prydau ysgol am ddim yn berthnasol (er y gall y ddarpariaeth amrywio). Fel arfer, gweinyddir y cynllun prydau ysgol am ddim yng Nghymru a Lloegr gan adran addysg eich awdurdod lleol neu gyrff llywodraethu yn eich ardal leol.

Mae prydau ysgol am ddim yn yr Alban yn rhywbeth y penderfynir arno gan adrannau addysg unigol yr awdurdodau lleol.

Rhaid i'r holl fwyd a ddarperir gan adran addysg eich awdurdod lleol gyrraedd y safonau maeth cenedlaethol. Mae'r safonau hyn yn sicrhau bod plant yn derbyn deiet iach a chytbwys.

Ar ba oed y mae plentyn yn cael prydau ysgol am ddim?

Mae prydau am ddim ar gael i unrhyw fyfyriwr llawn amser sy'n dal yn yr ysgol ac yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys plant meithrin sy'n mynychu diwrnodau llawn a myfyrwyr chweched dosbarth hefyd. Nid yw prydau ar gael ar gyfer myfyrwyr ar lefel addysg bellach.

Sut mae gwneud cais

I wneud cais am brydau ysgol am ddim, bydd yn rhaid i chi fel arfer lenwi ffurflen gais gan adran addysg eich awdurdod lleol a'i dychwelyd gyda'r prawf perthnasol naill ai i un o'r ysgolion y mae eich plentyn/plant yn eu mynychu neu i'r cyfeiriad ar y ffurflen. Rhaid i awdurdodau lleol unigol fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn bodloni'r amodau cymhwyso.

Os ydych yn derbyn elfen credyd gwarant Credyd Pensiwn, gofynnir ichi ddarparu prawf o'ch hawl. Gall hwn fod eich hysbysiad o'r 'Dyfarniad Credyd Pensiwn M1000', llythyr gan y Gwasanaeth Pensiwn neu lungopi o'r llythyr penderfyniad

Gwneud cais am brydau ysgol am ddim

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Llaeth am ddim

Mae gan unrhyw blentyn dan bump oed hawl i docynnau llaeth am ddim os ydych yn derbyn elfen credyd gwarant Credyd Pensiwn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU