Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Canllaw i fudd-daliadau wrth ofalu am rywun

Os ydych yn ofalwr, efallai bod gennych hawl i gael cymorth a chefnogaeth. Mae 'gofalwr' yn golygu rhywun sy'n gofalu am ffrind, perthynas neu gymydog y mae angen cefnogaeth arnynt oherwydd eu hoedran, eu salwch neu eu hanabledd.

Lwfans Gofalwr – i chi

Budd-dal trethadwy a delir i bobl sy'n rhoi gofal anffurfiol i bobl yw'r Lwfans Gofalwr. Does dim rhaid i chi fod yn perthyn i'r unigolyn, na bod yn byw gydag ef/hi. Gallai'r person yr ydych yn gofalu amdano fod yn ffrind, yn berthynas neu'n gymydog.

Gallwch hawlio Lwfans Gofalwr os ydych chi'n treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn rhoi gofal. Rhaid i'r person yr ydych yn gofalu amdano fod yn derbyn, er enghraifft, Lwfans Gweini neu Lwfans Byw i'r Anabl.

Lwfans Gweini – i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano

Budd-dal di-dreth yw'r Lwfans Gweini ar gyfer pobl sy'n 65 neu'n hŷn sydd â salwch neu anabledd ac angen cymorth gyda gofal personol. Nid effeithir ar y Lwfans Gweini gan gynilion, ac nid effeithir arno ychwaith, fel arfer, gan arian arall yr ydych yn ei dderbyn.

Lwfans Gweini Cyson – i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano

Column 7

Os oes angen sylw a gofal dyddiol ar y sawl yr ydych yn gofalu amdano ac yntau/hithau'n hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol neu Bensiwn Anabledd Rhyfel, gallant hawlio'r Lwfans Gweini Cyson.

Lwfans Byw i'r Anabl – i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano

Budd-dal di-dreth yw'r Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer pobl dan 65 oed sydd angen help i symud o gwmpas a/neu i ofalu amdanynt eu hunain oherwydd eu bod yn sâl, yn angheuol wael neu'n ddifrifol anabl.

Ar incwm isel – i chi neu i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano

Os ydych ar incwm isel, mae'n bosibl y byddwch chi'n gymwys i gael cymorth ariannol i chi neu i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano.

Benthyciadau Argyfwng

Benthyciadau di-log yw'r Benthyciad Argyfwng os oes angen cymorth ariannol arnoch chi tuag at argyfwng neu drychineb.

Benthyciadau Cyllidebu

Gellir darparu Benthyciadau Cyllidebu i helpu pobl ar incwm isel i dalu am bethau fel dodrefn, dillad a theithio.

Grantiau Gofal yn y Gymuned

Os oes angen help ar y sawl yr ydych yn gofalu amdano i fyw'n annibynnol yn y gymuned neu i liniaru pwysau eithriadol arnoch chi, mae'n bosib y gallent gael Grant Gofal yn y Gymuned. Does dim rhaid i chi ei dalu'n ôl.

Cael gwybod am grwpiau cefnogi gofalwyr lleol

Bydd y ddolen isod yn gadael i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am fudiadau a grwpiau cefnogi gofalwyr yn eich ardal chi.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU