Os ydych chi'n 75 oed neu'n hŷn mae gennych chi hawl i drwydded deledu am ddim. Gallwch hefyd gael gostyngiad ar bris trwydded deledu os ydych chi wedi'ch cofrestru'n ddall neu'n byw mewn gofal preswyl.
Gall pawb sy'n 75 oed neu'n hŷn gael trwydded deledu am ddim i'w prif gartref. Mae pobl eraill o'r un aelwyd sy'n byw yn y cyfeiriad hwnnw hefyd yn dod o dan y drwydded.
Os ydych chi'n 74 oed, cewch wneud cais am drwydded dros dro a fydd yn ddilys tan ddiwedd y mis nes i chi gyrraedd 75 oed.
Os ydych chi'n byw mewn gofal preswyl, mae'n bosibl bod gennych hawl i gael Trwydded Llety Gofal Preswyl (ARC) am bris Gostyngol, sef £5 y flwyddyn.
Nid oes gan bob cartref preswyl drwydded ARC a rhaid i chi fod wedi ymddeol, neu fod yn 60 oed neu'n hŷn i gael Trwydded Gostyngiad ARC. Gall gweinyddwr eich llety wneud cais am drwydded ar eich rhan.
Os oes gennych drwydded lawn a'ch bod yn symud i lety sy'n gymwys i gael trwydded ARC, cewch ymuno â'r cynllun ARC a hawlio ad-daliad am y misoedd sy'n weddill. Dylai gweinyddwr eich llety ysgrifennu at yr adran Trwyddedau Teledu i wneud cais ar eich rhan.
Os ydych chi neu rywun sy'n byw gyda chi wedi'u cofrestru'n ddall, gallwch gael gostyngiad o 50 y cant ar gost trwydded deledu.
Os nad y sawl sydd wedi'i gofrestru'n ddall yw deiliad cyfredol y drwydded ar gyfer eich cyfeiriad chi, bydd rhaid i chi drosglwyddo'r drwydded i'w henw nhw.
I wneud hyn, ffoniwch yr adran Trwyddedau Teledu 0845 603 6999 (minicom 0870 575 8604).
I wneud cais am y gostyngiad i bobl ddall, rhaid i chi anfon eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn, rhif eich Trwydded Teledu a'r canlynol at yr adran Trwyddedau Teledu.
Postiwch eich cais i'r Adran Trwyddedau Teledu, Grup Gostyngiad i'r Deillion, Bryste BS98 1TL
Dylai eich trwydded deledu newydd eich cyrraedd o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl iddyn nhw dderbyn eich cais.
Os ydych chi'n 75 oed neu'n hŷn gallwch wneud cais am y Drwydded Dros 75 am ddim dros y ffôn.
Ffoniwch yr Adran Trwyddedau Teledu ar 0845 241 6468, minicom 0870 575 8604 (rhwng 8.30 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.30 am a 5.00 pm ar ddydd Sadwrn).
Gofynnir i chi roi eich enw, eich cyfeiriad, eich dyddiad geni a'ch rhif Yswiriant Gwladol.
Os ydych chi'n 74 oed, gallwch wneud cais am y Drwydded Dros Dro hefyd drwy ffonio'r adran Trwyddedau Teledu ar 0845 241 6468, minicom 0870 575 8604.
Gofynnir i chi roi rhif eich Trwydded Deledu gyfredol ynghyd â'ch enw, eich cyfeiriad, eich dyddiad geni a'ch rhif Yswiriant Gwladol.
Cewch ofyn i'r gweinyddwr yn eich cartref gofal preswyl cymwys wneud cais am drwyddedau ARC ar eich rhan.
Mae'r drwydded deledu am ddim ar gael ar Guernsey, Alderney a Herm ond nid ar Jersey na Sark.
Cysylltwch â'ch swyddfa fudd-daliadau i gael gwybod a ydych chi'n gymwys i gael trwydded deledu am ddim os ydynt ar gael.
Efallai bydd preswylwyr Jersey sy’n 75 oed neu’n hŷn yn gymwys i gael eu taliad trwydded teledu wedi eu talu gan yr Adran Jersey o’r Nawdd Cymdeithasol.
Os byddwch yn symud cartref, rhowch wybod i'r adran Trwyddedau Teledu er mwyn iddyn nhw drosglwyddo'ch trwydded i'ch cyfeiriad newydd.
Gallwch ddiweddaru eich manylion ar y wefan Trwyddedau Teledu.
Neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0870 241 6468 (minicom 0870 575 8604).
Os oes gennych unrhyw ymholiad am drwyddedau am ddim neu brisiau gostyngol, ffoniwch yr Adran Trwyddedau Teledu 0870 241 6468, minicom 0870 575 8604 (rhwng 8.30 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.30 am a 5.00 pm ar ddydd Sadwrn).