Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Taliad Tywydd Oer

Os ydych chi ar incwm isel, fe all y Taliad Tywydd Oer eich helpu gyda chostau gwresogi ychwanegol pan fydd y tywydd yn oer iawn yn eich ardal chi.

Pwy sy'n gymwys?

Fe gewch y Taliad Tywydd Oer fel mater o drefn ar gyfer pob wythnos o dywydd oer iawn os ydych chi'n cael Credyd Pensiwn.

Fe gewch chi'r Taliad Tywydd Oer hefyd ar gyfer pob wythnos gymwys os ydych chi neu'ch partner yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm a bod gennych blentyn dan bump neu un o'r canlynol:

  • premiwm pensiynwr, premiwm uwch i bensiynwyr neu bremiwm mwy i bensiynwyr
  • premiwm anabledd neu bremiwm anabledd difrifol
  • premiwm plentyn anabl
  • Credyd Treth Plant sy'n cynnwys elfen unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc cymwys sy'n anabl neu'n ddifrifol anabl

Faint fyddwch chi'n ei gael?

£8.50 pan fydd y tymheredd ar gyfartaledd yn eich ardal chi yn sero gradd Celcius yn ôl yr hyn a gofnodir neu a ragwelir, neu'n is na hynny am saith niwrnod di-dor rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth. Defnyddir gorsafoedd tywydd penodol y Swyddfa Dywydd er mwyn cael y wybodaeth hon.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Ni fydd Taliadau Tywydd Oer yn effeithio ar fudd-daliadau eraill rydych chi'n eu cael.

Sut i wneud cais

Does dim rhaid i chi wneud cais; fe gewch chi'r Taliad Tywydd Oer fel mater o drefn cyn belled â'ch bod yn gymwys.

Dywedwch wrth eich canolfan bensiynau neu'ch Canolfan Byd Gwaith os credwch y dylech chi gael y Taliad Tywydd Oer.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU