Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Arweiniad i gonsesiynau a chymorth arall

Mae nifer o gonsesiynau a mathau eraill o gymorth ar gael os ydych yn 50 oed neu fwy. Gallant ei gwneud yn haws ichi fforddio gwneud y pethau yr ydych am eu gwneud - gan gynnwys gofalu amdanoch eich hun, teithio rhatach a thrwyddedau teledu am ddim.

Pa gymorth sydd ar gael

Mae elusennau lleol a chenedlaethol a mudiadau di-elw eraill yn gallu bod yn ffynhonnell ddefnyddiol o gymorth, cyngor a chefnogaeth i bobl hwn a'u gofalwyr. Mae gan rai elusennau cenedlaethol mawr ganghennau lleol sy'n cynnig amrediad eang o wasanaethau a gweithgareddau cymdeithasol.

Pasportau am ddim

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig ac wedi'ch geni ar neu cyn 2 Medi 1929, gallwch wneud cais am basport deng mlynedd safonol 32 tudalen am ddim gan Wasanaeth Pasport y DU.

Tocynnau mantais i deithio ar fws

Yn aml iawn, mae teithio ar fws neu fws moethus yn ddewis rhatach wrth deithio. Mae amrywiaeth eang o brisiau rhatach ar gael ar y bysiau sy'n ei gwneud hi'n rhatach byth i chi fynd o fan i fan.

Os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn mae gennych hawl i deithio am ddim ar fysiau lleol ar adegau tawel unrhyw le yn Lloegr. Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu’r Alban, mae gennych hawl hefyd i deithio am ddim ar fysiau yn eich ardal leol.

Cerdyn trên i bobl hŷn

Gallwch arbed hyd at draean ar bris tocyn gyda cherdyn trên ar gyfer pobl dros 60.

Trwyddedau teledu am ddim

Os ydych chi'n 75 oed neu'n hŷn mae gennych chi hawl i drwydded deledu am ddim. Os ydych chi'n 74 oed, cewch wneud cais am drwydded dros dro ar gyfer y misoedd hynny nes i chi gyrraedd 75 oed. Gallwch hefyd gael gostyngiad ar bris trwydded deledu os ydych chi'n byw mewn gofal preswyl.

Y Gronfa Byw'n Annibynnol

Os ydych chi dan 66 oed ac yn anabl iawn, efallai fod gennych hawl i gael arian o'r Gronfa Byw'n Annibynnol i helpu i dalu am ofal personol a domestig.

Cefnogaeth a'ch iechyd beunyddiol

Mae archwiliadau meddygol rheolaidd ar gael i’ch helpu i sylwi ar unrhyw broblemau meddygol posibl. Efallai fod rhai gwasanaethau iechyd ar gael i chi am ddim neu am bris consesiwn - megis profion llygaid, gofal deintyddol, presgripsiynau ac imiwneiddiadau. Mae cefnogaeth hefyd ar gael ar gyfer achosion o gam-drin yr henoed.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU