Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth pellach gan elusennau a mudiadau di-elw - dros 50

Mae elusennau lleol a chenedlaethol a mudiadau di-elw eraill yn gallu rhoi cymorth, cyngor a chefnogaeth i bobl hŷn a'u gofalwyr. Gallant hefyd eich helpu i barhau i fyw'n annibynnol yn eich cartref eich hun.

Y prif elusennau ar gyfer pobl hŷn

Mae gan rai elusennau cenedlaethol mawr, megis Help the Aged ac Age Concern, ganghennau lleol a chynigiant amrediad eang o wasanaethau a gweithgareddau cymdeithasol.

Help the Aged

Mae Help the Aged yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i bobl hŷn.

Gallwch dderbyn cyngor cyfrinachol a di-dâl am hawlio budd-daliadau a hawliau eraill megis tocynnau mantais i deithio ar fws drwy ffonio llinell gymorth ddi-dâl Help the Aged, SeniorLine, ar 0808 800 6565, rhwng 9.00 am a 4.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gwasanaeth ymateb yn syth yw SeniorLink a ddarperir gan Help the Aged. Uned sylfaen yw'r gwasanaeth SeniorLink gyda botwm ar yr uned honno. Pan fyddwch angen help ac am siarad â rhywun, rydych yn gwasgu'r botwm ar yr uned neu ar y pendant neu'r strap arddwrn sy'n dod gyda'r uned.

Gwasanaeth diogelwch y cartref yw HandyVan, lle mae unigolion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn ymweld â'ch cartref ac yn gosod cyfarpar megis larymau canfod mwg, cloeon ar y ffenestri a chadwyn a gwydr sbecian ar ddrysau. Maer gwasanaeth yn ddi-dâl ir rhai sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyso.

Age Concern

Elusen yn y DU yw Age Conern ar gyfer pobl hŷn. Mae'n cynnal amrediad eang o wasanaethau lleol trwy rwydwaith o ganghennau. Mae'r gwasanaethau'n amrywio o le i le, ond gall y rhai sydd ar gael yn eich ardal gynnwys:

  • clybiau cinio
  • dosbarthiadau ymarfer corff
  • gwasanaethau cymorth emosiynol megis gwasanaethau cwnsela ac ymweld
  • cymorth ymarferol yn y cartref megis cymorth cartref a chymorth gyda garddio
  • gweithgareddau y tu allan i'r cartref megis tripiau
  • hyfforddiant cyfrifiadurol a defnyddio'r rhyngrwyd
  • gwybodaeth a chyngor

Rhif llinell wybodaeth ddi-dâl Age Concern yw 0800 00 99 66 a gall ddarparu gwybodaeth gyffredinol a chymorth rhwng 8.00 am a 7.00 pm, bob diwrnod o'r flwyddyn.

Mae gan Age Concern hefyd wasanaeth larwm personol ymateb yn syth a elwir yn Aid-Call, sy'n debyg i wasanaeth SeniorLink Help the Aged. Yn wahanol i SeniorLink, mae Aid-Call ar gael i bawb heb brawf modd ond bydd y rhan fwyaf o bobl yn gorfod talu am y gwasanaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ffonio llinell ymholiadau Aid-Call am ddim ar 0800 772 266 rhwng 9.00 am a 5.30 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cyngor Ar Bopeth

Gallwch dderbyn cyngor annibynnol di-dâl gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) leol, beth bynnag y bo'ch oedran.

Mae canolfannau Cyngor ar Bopeth yn cael eu staffio gan wirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi, a gallant roi cyngor i chi ar amrywiaeth mawr o faterion, gan gynnwys:

  • sut i reoli a lleihau dyled
  • budd-daliadau a threthiant
  • tai
  • materion cyfreithiol
  • gwahaniaethu
  • problemau defnyddwyr

Mae'r CAB hefyd yn darparu cyngor ar-lein trwy'r wefan Adviceguide. Mae'r wefan yn cynnwys cyngor annibynnol ar eich hawliau ac yn eich cyfeirio at ffynonellau eraill o gyngor arbenigol os bydd angen mwy o gymorth arnoch chi.

Elusennau lleol eraill

Gall elusennau lleol gynnig cymorth gydag amgylchiadau penodol neu bryder sy'n bersonol i chi.

Mae gormod o elusennau rhanbarthol llai ar gael i'w rhestru, ond mae'r wefan Charitynet yn cynnwys gwefannau mudiadau di-elw ar draws y byd. Ceir cyfarwyddiadau clir ynghylch sut i ddefnyddio'r wefan i ddod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei hangen.

Y Comisiwn Elusennau

Mae'r Comisiwn Elusennau wedi'i sefydlu drwy gyfraith i weithredu fel cofrestrydd a rheolydd elusennau yng Nghymru a Lloegr. Os ydych yn bryderus ynghylch defnyddio gwasanaethau elusen neu roi rhodd, gallwch ganfod a oes gan elusen statws cyfreithiol (trwy gofrestru gyda'r comisiwn). Neu efallai yr hoffech ddod yn ymddiriedolwr i elusen? Bydd y wefan yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i chi.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU