Mae llawer o bobl yn teimlo ei bod yn bwysig cael trefn ar eu materion cyn iddynt farw er mwyn iddynt gael mwy o reolaeth dros yr hyn a fydd yn digwydd i'w heiddo a'u heiddo personol, yn ogystal â meddwl am gynlluniau angladd.
Os yw'r hyn sy'n digwydd i'ch eiddo ar ôl ichi farw yn bwysig i chi, dylech wneud ewyllys. Er nad oes raid ichi, dyma'r ffordd orau o sicrhau bod eich ystâd yn pasio i'ch teulu a'ch ffrindiau yn unol â'ch dymuniadau. Os ydych yn marw heb fod wedi gwneud ewyllys, efallai bydd eich asesiadau yn cael eu rhannu yn ôl y llywodraeth ac nid eich dymuniadau chi.
Mae gan bob oedolyn gyda gallu meddyliol hawl i gytuno i driniaeth feddygol neu ei gwrthod. Er mwyn sicrhau bod eich dymuniadau'n glir ymlaen llaw, gallwch ddefnyddio ewyllys byw. Gall ewyllysiau byw gynnwys datganiadau cyffredinol am eich dymuniadau, nad ydynt yn gyfreithiol-rwym a datganiadau ynghylch triniaethau penodol yr ydych am eu gwrthod (a elwir yn 'benderfyniadau ymlaen llaw' neu 'flaengyfarwyddebau') sydd yn gyfreithiol-rwym.
Ysgrifennir y rhan fwyaf o ewyllysiau byw gan bobl hwn neu bobl sy'n ddifrifol wael, ond efallai y byddech yn hoffi ystyried ysgrifennu un er eich bod mewn iechyd da.
Esboniad o’r term a sut mae’n effeithio arnoch ar ôl marwolaeth perthynas neu rywun agos.
Os ydych yn ysgutor ewyllys person efallai y bydd angen dogfen gyfreithiol arnoch a elwir yn 'grant profiant' a fydd yn eich galluogi chi i gael trefn ar faterion yr ymadawedig. Os nad oes ewyllys, gall perthynas agos wneud cais am 'grant llythyrau gweinyddu'
Os oes rhywun yn marw heb wneud ewyllys, dywedir eu bod wedi marw yn 'ddiewyllys'. Os digwydd hyn, mae'r gyfraith yn nodi pwy ddylai delio â materion yr ymadawedig a phwy ddylai etifeddu'r ystâd (eiddo, eiddo personol ac arian). Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig.
Pan fydd rhywun yn marw, bydd rhaid i rywun (a elwir ‘ysgutor’ neu ‘gweinyddwr’ y person a fu farw) delio gyda ei arian ac eiddo (‘ystâd’ y person a fu farw). Bydd angen iddynt dalu treth a dyledion y person a fu farw, a dosbarthu ei arian ac eiddo i’r bobl sydd â hawl iddynt