Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Arweiniad i gael trefn ar faterion yn ymwneud ag eiddo ar ôl profedigaeth

Ar ôl i rywun agos atoch farw, efallai y bydd angen i chi gysylltu â phobl a sefydliadau penodol, llenwi rhai dogfennau, trefnu angladd a delio â materion ariannol ac eiddo. Hefyd, os oeddech yn agos at y person sydd wedi marw, efallai y byddwch yn teimlo fel cael cefnogaeth neu rywun i siarad ag ef.

Beth i'w wneud yn gyntaf ar ôl i rywun farw

Pan fydd rhywun yn marw, rhaid rhoi gwybod i bobl a sefydliadau penodol, a rhaid llenwi rhai dogfennau. Gall ffrind neu berthynas agos wneud rhai o'r pethau hyn; rhaid i eraill gael eu gwneud gan ysgutor neu weinyddwr ystâd yr ymadawedig.

Delio â chartref ar rent yr ymadawedig

Mae'r camau sy'n rhaid eu cymryd pan fydd tenant yn marw yn dibynnu ar ai'r cyngor neu landlord preifat sy'n berchen ar y cartref. Hefyd, daw ffactorau eraill i'r fei os yw'r ymadawedig yn rhannu'r cartref ar rent gyda rhywun arall.

Prisio ystâd ar gyfer Treth Etifeddu

Wrth brisio ystâd rhywun sydd wedi marw, bydd angen ichi gynnwys yr asedau yr oedd yn eu meddiant (eiddo, eiddo personol ac arian) cyn eu marwolaeth a rhai asedau a roddwyd i ffwrdd ganddynt yn ystod y saith mlynedd cyn eu marwolaeth. Rhaid i'r prisiad adlewyrchu'n gywir y pris y byddai'n rhaid ei dalu o fewn rheswm am yr asedau hynny ar y farchnad agored adeg marwolaeth yr unigolyn.

Treth Etifeddu

Y Dreth Etifeddu yw'r dreth sy'n cael ei thalu ar eich 'ystad'. Yn gyffredinol, golyga hyn bopeth yr ydych yn berchen arno adeg eich marwolaeth, llai eich dyledion. Weithiau mae'n daladwy ar asedau yr ydych wedi'u rhoi i ffwrdd yn ystod eich bywyd. Mae asedau'n cynnwys pethau megis eiddo, eiddo personol, arian a buddsoddiadau.

Talu Treth Etifeddu

Os ydych wedi cael eich enwebu yn gynrychiolydd personol i rywun, bydd angen ichi brisio'r holl asedau (eiddo, eiddo personol ac arian) yr oedd yr ymadawedig yn berchen arnynt, er mwyn cyfrifo faint o Dreth Etifeddu sy'n ddyledus. Mae Treth Etifeddu'n daladwy dim ond os yw ystâd person werth fwy na £312,000.

Gwneud ewyllys

Os yw'r hyn sy'n digwydd i'ch eiddo ar ôl i chi farw yn bwysig i chi, dylech wneud ewyllys. Er nad oes raid i chi, dyma'r ffordd orau o sicrhau bod eich ystâd yn pasio i'ch teulu a'ch ffrindiau yn unol â'ch dymuniadau.

Ond os byddwch yn marw heb ewyllys, bydd eich asedau'n cael eu dosbarthu yn unol â'r gyfraith yn hytrach na'ch dymuniadau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU